Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi heddiw bod cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Chwalfa wedi gorfod cael ei ganslo, oherwydd yr oedi cyn agor canolfan Pontio.
Y mis diwethaf, dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol bod y cynhyrchiad yn cael ei ohirio tan fis Chwefror am na fydd canolfan Pontio yn agor tan 2015 – mwy na thair blynedd ar ôl y dyddiad agor gwreiddiol.
Ond yn dilyn trafodaethau gyda chontractwr yr adeilad gwerth £45 miliwn, mae wedi dod i’r amlwg na fydd yr adeilad yn barod mewn pryd.
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Arwel Gruffydd fod y newydd yn “siom fawr” ar ôl “misoedd o waith paratoi”.
‘Penderfyniad anodd’
“Rwyf wedi cymryd y penderfyniad anodd a phoenus i ganslo Chwalfa er ein bod yn parhau i weithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru i ddod a drama Gymraeg o ansawdd uchel i Pontio yn y dyfodol,” meddai Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G Hughes.
“Rwyf yn sylweddoli fod y newydd yma yn siom enfawr ond oherwydd yr oedi yn y gwaith adeiladu, does gennym ddim dewis arall. Rydym yn ymddiheuro’n daer i’r cast, y criw a’n cynulleidfa, ac rydym yn rhannu’r siom.
“Bydd staff swyddfa docynnau Pontio mewn cysylltiad uniongyrchol a chwsmeriaid er mwyn trefnu ad-daliad.”
‘Archwilio pob cyfle posibl’
Ychwanegodd Arwel Gruffydd: “Mae’n siom fawr i mi ac i’r cwmni na fydd modd i ni lwyfannu Chwalfa yn y flwyddyn newydd.
“Daw hyn ar ôl misoedd o waith paratoi, a nifer ohonom – yn artistiaid a gweithwyr theatr proffesiynol yn ogystal â thrigolion yr ardal – wedi gweithio’n ddiwyd ac ymroddedig i greu cynhyrchiad eithriadol.
“Byddwn ni a Pontio yn archwilio pob cyfle posibl i lwyfannu’r gwaith yn y dyfodol.
“Yn anffodus, nid oedd modd derbyn sicrwydd y byddai Theatr Bryn Terfel yn barod i ni allu gwneud hynny yn y flwyddyn newydd. Byddwn felly’n parhau â’n trefniadau i lwyfannu cynhyrchiad arall yn y flwyddyn newydd.”