Awyren ofod
Heddiw yw diwrnod olaf ymgynghoriad Llywodraeth San Steffan ar ddewis safle i ddatblygu porth awyrennau gofod cyntaf Prydain.
Ymysg yr wyth lleoliad sy’n cael eu hystyried ar gyfer y cynllun ‘Porth Gofod’, mae maes awyr Llanbedr ger Harlech.
Bwriad y cynllun yw cludo teithwyr i’r gofod ymhen pedair blynedd, ac yn ôl y llywodraeth, fe all y diwydiant greu 100,000 o swyddi.
Mae rhai o gynghorwyr Gwynedd wedi croesawu’r cynllun, gan ddweud y byddai’n dod a swyddi i ardal sydd ei hangen, ond mae pryderon am yr effaith y byddai cynllun mor fawr yn ei gael ar yr amgylchedd a byd natur.
‘Hwb i’r economi’
Mae Gweinidog yr Economi, Edwina Hart wedi estyn croeso cynnes i’r cynllun, gan ddweud y byddai’n dod a llawer o fanteision i Gymru yn ogystal â’r ardal leol: “Pe byddai Llanbedr yn cael ei dewis, byddai cyfle yma i weddnewid pethau.
“Byddai’n rhoi hwb i economi rhanbarthol Gogledd Orllewin Cymru ac yn rhoi Cymru ar y map fel cyfrannydd pwysig i sector gofod byd eang y Deyrnas Unedig sy’n sector sy’n prysur dyfu.”
Lleoliadau
Y lleoliadau eraill sy’n cael eu hystyried ar gyfer y cynllun yw:
• Maes Awyr Campbeltown (Yr Alban)
• Glasgow, Prestwick (Yr Alban)
• Stornorway (Yr Alban)
• Meysydd Awyr y Llu Awyr yn Luchars a Lossiemouth (Yr Alban)
• Gwersyll Kinloss (Yr Alban)
• Maes Awyr Newquay (Cernyw)
Nid yw Llywodraeth San Steffan wedi dweud pryd y bydden nhw’n cyhoeddi lleoliad y safle ar hyn o bryd.