David Cameron
Mae David Cameron a Phrif Weinidog Ffrainc, Manuel Valls, wedi cwrdd i drafod mesurau i atal pobl rhag teithio i Irac a Syria i ymuno ag eithafwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Cafodd Manuel Valls ei groesawu yn Downing Street gan y Prif Weinidog ar gyfer trafodaethau ynglŷn â’r ymdrech ryngwladol i fynd i’r afael a’r bygythiad gan IS.
Dywedodd David Cameron bod y DU a Ffrainc yn “gynghreiriaid cryf.”
Roedd disgwyl i’r ddau hefyd drafod yr heriau economaidd sy’n wynebu’r ddwy wlad yn ystod y cyfarfod yn Rhif 10.
Mae Ffrainc a’r DU wedi cynnal ymosodiadau o’r awyr ar safleoedd IS yn Irac ac mae’r ddwy wlad wedi gweld cannoedd o’u dinasyddion yn teithio i’r Dwyrain Canol i ymuno a grwpiau milwriaethus.