Mae llifogydd a gwyntoedd cryfion yn parhau i achosi oedi mawr ar ffyrdd a rheilffyrdd de Cymru wedi i dywydd garw daro’r ardal dros nos.
Roedd tagfeydd o hyd at naw milltir o hyd ar yr M4 rhwng cyffordd Malpas a Chasnewydd y bore yma ac mae trenau o Ganol Caerdydd i Lundain wedi eu canslo.
Yn ogystal mae cyfyngiadau cyflymder o 40mya mewn grym ar yr M48 oherwydd gwyntoedd cryfion.
Cafodd yr heddlu eu galw wedi i goeden ddisgyn yn Heol y Felin, Llanilltud Fawr am tua 7 y bore ma. Nid oes adroddiadau fod unrhyw un wedi eu hanafu.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae disgwyl i’r tywydd garw barhau am ychydig ddyddiau, gyda rhybudd am wyntoedd o hyd at 70 milltir yr awr mewn ardaloedd agored yn y de.
“Dylai’r cyhoedd fod yn ymwybodol o’r oedi sy’n bosib i deithwyr oherwydd gwyntoedd cryfion a dŵr yn sefyll ar y ffyrdd,” meddai llefarydd.