Carl Sargeant
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r Bil Cynllunio y maen nhw’n gobeithio fydd yn symleiddio a chysoni’r broses o adeiladu tai yng Nghymru.
Ond mae ymgyrchwyr iaith wedi beirniadu’r cynlluniau am nad yw’r Bil yn sôn am y Gymraeg, gan awgrymu y dylai Carwyn Jones ymddiswyddo fel Prif Weinidog am dorri addewid iddynt.
Cyflwynodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant y Bil heddiw, gan ddweud mai’r bwriad oedd “cryfhau’r broses gynllunio”.
Pwerau i Weinidogion
Fe fydd Bil Cynllunio Cymru yn cynnwys rhoi’r pŵer i Weinidogion Llywodraeth Cymru benderfynu ar geisiadau cynllunio maen nhw’n credu sydd o bwys arwyddocaol i Gymru.
Bydd y broses o gynnal ymgynghoriadau cymunedol ar ddatblygiadau mawr hefyd yn cael ei gyflymu, er mwyn sicrhau system gynllunio fwy cadarn a chyflym, a fframwaith mwy eglur ar gyfer datblygwyr.
Ymysg rhai o’r newidiadau arfaethedig eraill, mae’r Llywodraeth yn gobeithio cyflwyno system orfodi fwy effeithiol er mwyn sicrhau fod modd gweithredu’n brydlon pan fo pobl yn torri rheolaethau cynllunio.
Fe fydd panelau cynllunio strategol hefyd yn cael eu sefydlu i ddelio ag unrhyw faterion cynllunio sydd yn estyn y tu hwnt i ffiniau awdurdod cynllunio lleol, fydd yn cynnwys aelodau a fydd yn cynrychioli buddiannau cymunedol ac amgylcheddol, a busnesau ac awdurdodau lleol.
Lleihau’r awdurdodau cynllunio
Wrth gyhoeddi’r Bil heddiw, fe ddywedodd Carl Sargeant ei fod yn gobeithio y bydd hwn yn gam tuag at ei ddymuniad o weld llai o awdurdodau cynllunio yng Nghymru.
“Rwy’n hynod falch o gyflwyno’r bil blaenllaw hwn, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, a fydd yn cryfhau’r broses gynllunio ar ei hyd,” meddai Carl Sargeant heddiw.
“Bydd hynny’n arwain at system effeithiol sydd orau i wasanaethu pobl Cymru ac sy’n addas ar gyfer y 21 ganrif.
“Ymhlith y gwelliannau y gall cymunedau edrych ymlaen at eu gweld, bydd eglurder o ran sut a phryd y gallant chwarae rhan yn y prosesau cynllunio ac ymgynghori, awdurdodau lleol yn cael eu mentora’n well a gwell proses apeliadau i sicrhau mwy o degwch, tryloywder a chyflymder.
“Mae’r Bil hefyd yn cynnig diwygio pwerau sydd eisoes yn bod i greu awdurdodau cynllunio mwy cadarn sydd ag ystod ehangach o sgiliau arbenigol.
“Nid yw’n gyfrinach fy mod am weld lleihad yn nifer yr awdurdodau cynllunio o’r 25 sy’n bodoli ar hyn o bryd, a chredaf fod hynny’n hanfodol ar gyfer dyfodol cynllunio yng Nghymru. Mae’r Bil hwn yn cryfhau’r weledigaeth hon.”
Penderfynu prosiectau ynni
Fe ychwanegodd Carl Sargeant ei fod yn gobeithio y gallai’r pwerau arfaethedig newydd i Weinidogion olygu’r gallu i wneud penderfyniadau ar brosiectau ynni sylweddol.
“Mae’r Bil yn cynnig mai Gweinidogion Cymru ddylai gymryd cyfrifoldeb am benderfynu ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol,” esboniodd Carl Sargeant.
“Rydyn ni’n ymgynghori ar hyn ac yn cynnig cynnwys prosiectau ynni rhwng 25 a 50 megawat. Bydd hyn yn sicrhau bod cynlluniau sy’n gallu effeithio ar gymunedau ar draws Cymru yn cael eu hystyried mewn cyd-destun ehangach a chyd-destun lleol.”
Ond heddiw fe feirniadodd Cymdeithas yr Iaith gynlluniau’r Llywodraeth, gan ddweud fod Carwyn Jones wedi torri addewid iddyn nhw y byddai’r Gymraeg yn cael ei hystyried yn y Bil.
Mae’r ymgyrchwyr iaith eisiau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried mewn unrhyw brosiect cynllunio er mwyn asesu effaith ieithyddol posib unrhyw ddatblygiad.