Cyngor Sir Benfro
Mae arweinydd Cyngor Sir Benfro, y Cynghorydd Jamie Adams, wedi sefydlu gweithgor trawsbleidiol o fewn yr awdurdod i drafod uno gyda Cheredigion.

Yn y gorffennol mae cynghorwyr Penfro wedi mynegi gwrthwynebiad i uno, ac nid yw’r datblygiad diweddaraf yn golygu trafodaethau rhwng y ddau awdurdod o gwbl ar hyn o bryd.

“Mae hi’n glir erbyn hyn fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu gorfodi cynghorau i uno,” meddai’r arweinydd Jamie Adams.

“Nid ydw i’n cytuno bod hyn yn angenrheidiol ond byddai’n ffôl i anwybyddu’r ffaith ei fod yn debygol o ddigwydd.

“Rwyf ar ddeall bod Cyngor Ceredigion yn erbyn uno, ac rwy’n parchu hynny. Ond mi fydda i’n sefydlu grŵp i ystyried y buddion o uno yn wirfoddol.”

Comisiwn Williams

Mae Cyngor Wrecsam wedi gwrthod uno â Chyngor Sir y Fflint yn dilyn trafodaethau’r wythnos diwethaf a Chyngor Casnewydd wedi pleidleisio i wrthod cynllun i uno’n wirfoddol â Chyngor Sir Fynwy.

Yn y cyfamser, mae Cyngor Conwy wedi penderfynu ystyried y posibilrwydd o uno â Sir Ddinbych.

Yn ôl Comisiwn Williams, mae angen lleihau nifer y cynghorau yng Nghymru o 22 i naill ai 10,11 neu 12.