George Osborne
Bydd budd-daliadau oedran gweithio yn cael eu rhewi am ddwy flynedd, meddai’r Canghellor George Osborne heddiw.
Dywedodd wrth gynhadledd y Blaid Geidwadol yn Birmingham ei bod hi’n annheg bod y cynnydd mewn budd-daliadau yn fwy na chodiadau cyflog ers dechrau’r dirwasgiad.
Meddai y byddai’r polisi yn arbed £3 biliwn a byddai’n eithrio budd-daliadau i bobl gydag anableddau ac i bensiynwyr.
Ychwanegodd ei fod eisiau system les sy’n deg i’r rhai sy’n ei defnyddio ac yn talu amdano.
Dywedodd George Osborne wrth y gynhadledd: “Bydd y polisi yma’n arbed dros £3 biliwn i’r wlad.
Mae’n gyfraniad i leihau’r diffyg, a bydd buddion i bensiynwyr a budd-daliadau anabledd yn cael eu heithrio.
“Ac i’r rhai sydd mewn gwaith, rwy’n dweud hyn – ble mae’r synnwyr mewn codi mwy o dreth arnoch chi, dim ond i chi gael peth o’ch arian nôl eich hun mewn lles.
“Y ffordd orau i gefnogi incwm pobl yw drwy sicrhau bod y rhai sydd allan o waith yn cael swydd a bod y rhai sydd mewn gwaith yn talu llai o dreth.”
Heddiw hefyd fe gyhoeddodd gynlluniau i gael gwared a’r dreth ar bensiynau sy’n cael eu hetifeddu.
O dan y cynlluniau fe fydd cynilwyr yn gallu trosglwyddo arian o’u pensiynau i’w plant a’i wyrion yn ddi-dreth yn dilyn eu marwolaeth.
Fe fydd y mesur yn effeithio unrhyw un sy’n etifeddu arian o gronfa bensiwn o Ebrill 2015 ac mae disgwyl i filoedd o bobl elwa o’r newidiadau.