Leanne Wood
Mae’n rhaid i gefnogwyr yr iaith beidio â mynd i ymladd ei gilydd dros fater codi miloedd o dai yng Ngwynedd, a chanolbwyntio ar ymladd dros drefn gynllunio newydd i Gymru fydd yn sicrhau ystyriaeth lawn a theg i’r iaith Gymraeg.
Dyna neges Leanne Wood sy’n dod i Bwllheli’r wythnos nesaf i siarad yn rali flynyddol Cymdeithas yr Iaith ar y testun ‘Na i Or-ddatblygu Cymru!’
Bu bwriad Cyngor Gwynedd i ganiatáu codi 4,292 o dai yn y sir dros y 15 mlynedd nesaf yn dân ar groen ymgyrchwyr iaith, awduron, actorion a cherddorion amlwg sy’n ofni mewnlifiad pellach i gadarnle’r iaith.
Yr wythnos ddiwetha’ datgelodd Golwg bod Cyngor Gwynedd am ddod â’r nifer o dai lawr 700, ond mae ymgyrchwyr yn dal i wrthwynebu.
Cyn ei hymweliad â’r gogledd fe ddywedodd Arweinydd Plaid Cymru wrth Golwg ei bod yn cytuno gyda’r gwrthwynebwyr mae’r ffordd orau o fesur yr angen am dai yw edrych ar yr angen yn lleol.
Ond mae’n mynnu fod y drefn bresennol yn gorfodi Cyngor Gwynedd i dderbyn targedau ar gyfer caniatáu codi tai o Lywodraeth Cymru yn ganolog.
“Mae llawer o gynghorau yn sownd yn y sefyllfa anodd hon oherwydd eu bod nhw cael eu gorfodi i gadw at y targedau tai sy’n cael eu gosod o’r top i lawr,” meddai Leanne Wood.
“Mae’n rhaid i ni greu system [gynllunio] sy’n seiliedig ar anghenion lleol yn hytrach nag ar yr hyn mae Llywodraeth yn dweud wrth gynghorau i’w wneud.”
‘Cyngor Gwynedd yn gi rhech i’r Blaid Lafur’
Yn ddiweddar yn y Wasg Gymraeg roedd llythyr dan y pennawd ‘Cyngor Gwynedd yn gi rhech i’r Blaid Lafur a’r Cynulliad’ a’r llythyrwr yn gweld bai mawr ar Blaid Cymru am ufuddhau i dargedau codi tai a fyddai’n peryglu dyfodol y Gymraeg.
“Mae ffyrdd o ddelio gyda phethau nad ydych yn cytuno gydan nhw, ac mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i geisio newid y drefn o fewn y fframwaith ddeddfwriaethol a pholisi sydd ganddon ni,” meddai Leanne Wood.
“Mae’r cynghorau yn styc gyda’r safbwynt y mae’r Llywodraeth yn ei orfodi arnyn nhw.”
Yr ofn ymysg rhai o gynghorwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd yw y bydd y cynllun codi tai yn niweidio ei chefnogaeth fel y gwnaeth y ffrae dros ddyfodol ysgolion bach yn 2008.
Ond mae Leanne Wood yn dweud nad yw byth yn helpu pan mae cenedlaetholwyr yn cweryla.
“Mae yna gymaint o anawsterau y mae pobol yn ein cymunedau ni yn wynebu, yr hyn sy’n synhwyrol i mi yw bod pawb ohonom ni sy’n rhannu’r gwerthoedd ynghylch y materion hyn yn dod at ein gilydd a chydweithio a gweld sut y gallwn ni newid pethau gyda’n gilydd, yn hytrach nag ymladd ymysg ein gilydd.
“Pan yr ydan ni’n ymladd ymysg ein gilydd, yr unig bobol sy’n ennill ydy’r bobol sydd eisiau gorfodi’r polisïau niweidiol hyn arnom ni.”
Cyfweliad Leanne Wood yn llawn yng nghylchgrawn Golwg.