David Cameron
Mae’r Ceidwadwyr yn bwriadu gwneud ‘Pleidlais Seisnig ar ddeddfau Seisnig’ yn un o bynciau trafod yr etholiad cyffredinol nesaf, os nad yw Llafur yn cydweithio â nhw dros y mater.

“Rydym ni’n glir y byddwn ni’n cadw’r holl addewidion a wnaethon ni i bobol yr Alban am ragor o ddatganoli a glynu at yr amserlen y cytunwyd arni,” meddai’r Prif Weinidog, David Cameron.

“Yn yr etholiad nesaf os nad yw Llafur yn cytuno â phleidlais Seisnig i ddeddfau Seisnig fe fydd dewis clir. Os pleidleisiwch chi dros y Ceidwadwyr fe gewch chi’r ddau – mwy o ddatganoli Albanaidd, ac ateb i Gwestiwn Lloegr.”

Dadlau tros ddatganoli

Ers refferendwm annibyniaeth yr Alban yr wythnos ddiwethaf mae pleidiau San Steffan wedi bod wrth yddfau’i gilydd tros ddyfodol datganoli ym Mhrydain.

Fe fynnodd y Prif Weinidog, David Cameron, fod angen i Lafur gefnogi’i ymdrechion i atal Aelodau Seneddol Albanaidd rhag pleidleisio ar faterion sy’n effeithio ar Loegr yn unig.

Ond mae Llafur yn gandryll ag ymdrech Cameron i geisio datrys y mater, gan ei gyhuddo o geisio diwygio cyfansoddiadol er mwyn siwtio’i blaid ei hun.

Maen nhw am weld yr Alban yn cael rhagor o bwerau ar unwaith – ond wedyn cynnal confensiwn cyfansoddiadol yn hydref 2015 i ddatrys y cwestiynau ehangach ynghylch datganoli.

Effaith ar Gymru hefyd

Byddai unrhyw newid presennol i’r drefn hefyd yn debygol o effeithio ar hawliau pleidleisio ASau Cymreig – er bod llai o faterion wedi’u datganoli i Gymru.

Yn union wedi’r bleidlais yn yr Alban, fe gafodd Arweinydd y Tŷ, William Hague, ei benodi i gadeirio pwyllgor Cabinet i baratoi cynlluniau ar gyfer ‘pleidlais Seisnig’.

Gan fod y mwyafrif 59 Aelod Seneddol presennol yr Alban yn rhai Llafur, fe allai’r newid posib gael effaith fawr arnyn nhw yn Nhŷ’r Cyffredin ac ar eu gallu i lywodraethu yn Lloegr.

Yn dactegol, dyw Llafur ddim eisiau i newid yn Lloegr arafu’r broses yn yr Alban; mae’r Ceidwadwyr, gyda dim ond un AS yn yr Alban, yn gweld cyfle i ennill cefnogaeth yr ochr isa’ i Fur Hadrian.