Heddiw mae Canolfannau Cymraeg i Oedolion yn lansio’r wefan gyntaf fydd yn cefnogi a hyfforddi tiwtoriaid sydd eisiau addysgu’r Gymraeg.

Y bwriad yn ôl arweinydd y prosiect, Lowri Mair Jones, yw annog trafodaeth ymysg y tiwtoriaid a rhoi cyfle iddyn nhw rannu syniadau ac arferion da.

“Mae’r wefan yn canolbwyntio’n bennaf ar asesu ar gyfer dysgu ac fe fydd yn dangos clipiau fideo o arferion da athrawon yn y maes,” meddai Lowri Jones, sydd wedi bod yn gweithio ar greu’r wefan ers tua chwe mis.

“Mae enghreifftiau o ddosbarthiadau i ddechreuwyr llwyr ym Mhontypridd, rhai canolradd yn Wrecsam a rhai gloywi iaith yn Aberystwyth.”

Sefydlwyd y wefan er gwaetha’r toriadau cyllido annisgwyl i gyllideb Cymraeg i Oedolion.

Ym mis Gorffennaf, cafodd y mudiad wybod fod Llywodraeth Cymru yn cymryd £1.47 miliwn o’i chyllideb, gyda’r cyllid yn disgyn o £10.651 miliwn i £9.176 miliwn ar gyfer 2014/15.

“Rydym yn gobeithio na wneith y toriadau presennol effeithio ar y ffordd mae rhywbeth fel hyn yn medru datblygu,” meddai Lowri Jones.

Technoleg

Mae cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion Y Gogledd, Ifor Gruffydd, yn gobeithio fod yr adnodd am ddenu pobol na fyddai’n medru dod o hyd i amser i fynychu cyrsiau Cymraeg i Oedolion.

“Gwerth y wefan yn benodol yw bod pobol yn medru ei ddefnyddio yn eu hamser eu hun. Mae’n dalcen caled denu bobol i ddod ar gwrs yn eu hamser prin gyda’r teulu neu beth bynnag” meddai Ifor Gruffydd.

“Mae ganddom ni raglen lle mae pobol yn dod at ei gilydd, ond mae’r wefan newydd yn fodd o ddefnyddio technoleg ar gyfer cynnig arweiniad i staff hefo rhywbeth sydd efallai yn ddiarth iddyn nhw.

“A’i wneud mewn ffordd fwy cyfoes a mwy o hwyl. Rydym ni’n bendant yn meddwl mai defnyddio technoleg ydy’r ffordd i fynd.”

Bydd Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn lansio’r wefan yn swyddogol yn y Llyfrgell Genedlaethol am un o’r gloch y p’nawn yma.