Ffred Ffransis
Mae angen mesurau i roi “lle canolog” i’r Gymraeg yn yr adolygiad o gwricwlwm ysgolion Cymru, sy’n cael ei gynnal gan yr Athro Graham Donaldson o’r Alban.

Dyna alwad Cymdeithas yr Iaith yn dilyn cyfarfod gyda’r academydd  Graham Donaldson a gafodd ei benodi ym mis Mawrth i gynnig cyfeiriad newydd o ran cwricwlwm ac asesu.

Mae’r mudiad wedi ysgrifennu’n ffurfiol at y Gweinidog Addysg Huw Lewis i ofyn iddo ddweud pwy fydd yr addysgwyr o Gymru a fydd yn gweithio gyda Graham Donaldson.

Dealltwriaeth

Roedd adroddiad gan yr Athro Sioned Davies o Brifysgol Caerdydd wedi galw am chwyldroi’r syniad o “Gymraeg ail iaith” gan ddweud y dylai pob ysgol wneud y Gymraeg yn gyfrwng addysg er mwyn sicrhau fod pob disgybl yn cael gafael da ar yr iaith.

“Mae’n siŵr y bydd gan yr Athro Graham Donaldson ddealltwriaeth dda o le pynciau fel mathemateg mewn cwricwlwm, ond mae’n annheg disgwyl y bydd yn deall lle canolog y Gymraeg yn ein cwricwlwm,” meddai llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis.

“Y peryg yw y bydd yn ei gweld fel pwnc ychwanegol yn unig, yn lle sgil hanfodol na ddylid amddifadu unrhyw ddisgybl ohono.”