Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi rhannu fideo yn annog pobl i gynnig enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dewi Sant 2015.

Cafodd y gwobrau eu sefydlu gan y Prif Weinidog y llynedd er mwyn gwobrwyo pobl sydd wedi gwneud cyfraniad yn eu sectorau a’u cymunedau, a hon fydd yr ail flwyddyn iddyn nhw gael eu cynnal.

Y cyhoedd sydd yn gyfrifol am enwebu pobl, ac fe fydd naw categori’n rhan o Wobrau Dewi Sant 2015 gyda’r enwebiadau’n cau ymhen mis.

Y naw categori yw Dewrder; Dinasyddiaeth; Diwylliant; Menter; Arloesedd a Thechnoleg; Chwaraeon; Person Ifanc; Rhyngwladol; a Gwobr Arbennig y Prif Weinidog sy’n cael ei dewis gan Carwyn Jones.

Heddiw fe rannodd y Prif Weinidog linc i fideo’n annog pobl gynnig enwebiadau, oedd yn cynnwys sgwrs â Yaina Samuels o Gaerdydd a enillodd yn y categori Dinasyddiaeth llynedd am ei gwaith  ym maes camddefnyddio sylweddau.

Bydd y panel o feirniaid, o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Rowe Beddoe, yn penderfynu ar y rhestr fer a’r enillwyr terfynol.

Ar y panel hefyd fe fydd cyfarwyddwr yr Urdd Efa Gruffudd Jones, cadeirydd Chwaraeon Cymru Laura McAllister, ac un o enillwyr y llynedd, Robin Jones o The Village Bakery yn Wrecsam.

Fe fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ym mis Mawrth 2015.

Mae’r cyfnod enwebu’n cau ar 28 Hydref, ac mae modd i’r cyhoedd enwebu pobl ar gyfer Gwobrau Dewi Sant ar y wefan www.gwobraudewisant.org.uk.