Richard Branson
Mae Richard Branson wedi cyhoeddi y bydd gweithwyr Virgin yn cael cymryd gymaint o wyliau ag y maen nhw’n ei ddymuno, cyn belled eu bod nhw’n gorffen eu prosiectau mewn pryd ac nad yw’r absenoldeb yn effeithio ar y busnes.
Bwriad y miliwnydd, wnaeth sefydlu cwmni Virgin yn 1972, yw rhoi hwb i greadigrwydd a chynhyrchiant y gweithwyr.
Gweithwyr ym Mhrydain a’r Unol Daleithiau fydd yn gweld budd o’r syniad i ddechrau, ond mae Richard Branson wedi annog pob busnes Virgin i fabwysiadu’r polisi os yw’n profi i fod yn llwyddiannus.
“Mae’r fenter yn un o’r rhai symlaf a’r mwyaf craff rydw i wedi clywed amdano ers amser hir,” meddai.
“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cyflwyno’r polisi yma ym Mhrydain a’r UD, lle mae polisïau gwyliau yn medru bod yn llym.”