Mae trenau sy’n rhedeg rhwng Canol Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu gohirio’r bore ma, ar ôl i berson gael ei daro ar y rheilffordd.
Cyhoeddodd Trenau Arriva Cymru fod oedi mawr i’r gwasanaeth oedd yn teithio trwy orsaf Pontyclun ac nad oedden nhw’n siŵr am faint fyddai’r oedi yn para.
“Mae person wedi cael ei daro gan drên ger Canol Caerdydd ac felly mae’n rhaid gohirio’r gwasanaeth rhwng y brifddinas y Phen-y-bont ar Ogwr,” meddai llefarydd ar eu cyfrif trydar.
Mae’r cwmni wrthi’n ceisio dod o hyd i gludiant amgen i deithwyr.
Nid oes manylion ar hyn o bryd am gyflwr y person gafodd ei daro.