Mae rhagor o ardaloedd yn Sierra Leone wedi cael eu hynysu wedi i haint Ebola ledu i nifer o ardaloedd newydd.
Mae llywodraeth y wlad wedi rhybuddio y gallai’r sefyllfa ddirywio eto os nad ydyn nhw’n ymateb ar unwaith.
Mae Port Loko, Bombali a Moyamba wedi cael eu hynysu, sy’n golygu mai gwasanaethau hanfodol yn unig sydd yn gallu cael mynediad i’r ardaloedd hynny.
Mae cynlluniau ar y gweill i ynysu rhagor o gartrefi yn y brifddinas, Freetown pan fydd achosion yn cael eu nodi.
Hyd yn hyn, mae mwy na 6,200 o bobol yng ngorllewin Affrica wedi cael eu heintio a thros 3,000 wedi marw, yn ôl ffigurau diweddaraf Sefydliad Iechyd y Byd.