Huw Lewis
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion am system newydd i raddio ysgolion, sy’n cymryd lle’r hen system fandio.

O fis Ionawr ymlaen bydd ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael eu gosod mewn categori coch, oren, melyn neu wyrdd – coch yw ysgolion sydd angen gwella a gwyrdd yw’r ysgolion gorau.

Yn dilyn beirniadaeth lem o’r hen system fandio, dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, fod y drefn newydd am “gefnogi a herio ysgolion” trwy ganolbwyntio ar yr arweinyddiaeth, yr addysgu a’r dysgu mewn dosbarthiadau.

Roedd yr hen system fandio gafodd ei lansio yn 2011 yn mesur perfformiad ysgolion o un i bump ac yn ddibynnol ar sut mae disgyblion yn perfformio mewn arholiadau a lefel presenoldeb.

Mae’r gwrthbleidiau ac undeb prifathrawon NAHT Cymru wedi croesawu adolygiad Llywodraeth Cymru o’r drefn newydd o raddio ysgolion.

Gwrando

Dywedodd Huw Lewis: “Rydym wedi gwrando ar yr adborth a gafwyd ers cyflwyno Bandio ac rydym wedi datblygu ar hyn wrth lunio model ar gyfer ysgolion cynradd a diwygio’r mesurau ar gyfer ysgolion uwchradd.

“Nid system sy’n llwyr seiliedig ar ddata yw’r system newydd hon. Mae’r arweinyddiaeth, yr addysgu a’r dysgu yn ein hysgolion hefyd yn cael eu hystyried.”

‘Cam i’r cyfeiriad iawn’

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar Addysg, Simon Thomas, mae’r drefn newydd yn “gam i’r cyfeiriad iawn” ond mae’n siomedig na chafodd y gwrthbleidiau gyfle i graffu ar y pwnc:
“Mae’r system newydd hon o gategoreiddio ysgolion yn gam yn y cyfeiriad iawn o ran safonau uwch, ond mae angen er hynny i wella mesur a chodi safonau addysg,” meddai.

“Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru yn awr wedi gweld y goleuni ac wedi dileu’r system fandio.

“Mae’n siomedig nad yw’r Gweinidog Addysg wedi caniatáu craffu go-iawn ar y pwnc hwn trwy wneud datganiad yn y Senedd.

‘System addysg Cymru wedi dioddef’

Ychwanegodd Aled Roberts ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: “Roedd Llywodraeth Cymru wedi cael y system fandio yn gwbl anghywir a system addysg Cymru wnaeth dalu’r pris.

“Rydym yn croesawu’r ffaith fod yr hen system yn cael ei ddisodli o’r diwedd gan un sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion unigol, eu nodweddion personol a’u cyraeddiadau.”