Alice Gross
Mae teulu merch 14 oed sydd wedi diflannu o’i chartref yng ngorllewin Llundain wedi cyhoeddi apêl.

Diflannodd Alice Gross ar Awst 28 ac mae’r heddlu wedi mynd ati i ail-greu ei symudiadau ger camlas Grand Union yn ardal Hanwell.

Yn y datganiad a gafodd ei gyhoeddi gan Heddlu Scotland Yard, dywedodd ei theulu: “Mae Alice wedi bod ar goll ers pedair wythnos bellach.

“Rydyn ni’n bryderus dros ben am ei lles ac yn poeni o hyd ynghylch beth allai fod wedi digwydd iddi.

“Rydyn ni’n apelio ar Alice. Os wyt ti allan yna, dere adre lle rwyt ti’n perthyn.

“Rydyn ni’n dy garu di ac yn gweld dy eisiau di.

“Rydyn ni am gael gweld dy wên eto, rydyn ni am dy glywed di’n canu eto, dy weld di’n cofleidio Peggy, neu’n eistedd wrth y piano.

“Rydyn ni am gael bod yn deulu unwaith eto.”

Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i’w diflaniad wedi derbyn mwy na 1,000 o alwadau gan y cyhoedd, ond dydyn nhw ddim wedi gallu darganfod mwy am yr hyn sydd wedi digwydd iddi.

Cafodd y dyn y maen nhw’n ei amau o fod â rhan yn ei diflaniad, Arnis Zalkalns, ei weld ar gamerâu cylch-cyfyng chwarter awr wedi i Alice gael ei gweld ar y camera.

Diflannodd Zalkalns, a gafwyd yn euog o lofruddiaeth yn y gorffennol, ar Fedi 3 ac mae’r heddlu wedi teithio i’w famwlad, Latfia i chwilio amdano.

Ond pe baen nhw’n dod o hyd i Zalkalns, ni fyddai ganddyn nhw’r hawl i’w arestio na’i holi ym Mhrydain.

Mae delweddau newydd o Alice wedi cael eu cyhoeddi gan yr heddlu, ynghyd â map o’r llefydd mae’r heddlu’n gwybod ei bod hi wedi mynd iddyn nhw.