Karina Menzies
Mae disgwyl i adroddiad am glaf sgitsoffrenig wnaeth ladd dynes ac anafu 17 arall gyda’i fan yng Nghaerdydd ddwy flynedd yn ôl gael ei gyhoeddi gan yr Arolygiaeth Iechyd heddiw.

Cafodd Matthew Tvrdon, sy’n dioddef o gyflwr sgitsoffrenia paranoiaidd, ei ddedfrydu i gyfnod amhenodol mewn uned seiciatrig wedi iddo yrru’n wyllt trwy strydoedd y brifddinas ar Hydref 19, 2012.

Cafodd Karina Menzies, mam 31 oed, ei lladd, ac fe gafodd 17 o bobol eraill eu hanafu mewn pump o leoliadau ar draws y brifddinas.

Cafodd y ddynes ei tharo ger gorsaf dân Elái wrth iddi gerdded ar y pafin gyda dau o blant.
Plediodd Tvrdon yn euog i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

Plediodd yn euog hefyd i saith achos o geisio llofruddio a thri achos o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.