Mae tîm pêl-fasged menywod Qatar wedi tynnu allan o’r Gemau Asiaidd yn dilyn ffrae tros yr hawl i wisgo’r hijab wrth chwarae.
Roedd disgwyl i’r tîm herio Nepal ond aethon nhw ddim i’r ganolfan ar gyfer yr ornest.
Mae’r ffrae wedi taflu cysgod mawr dros y Gemau sy’n cael eu cynnal yn Ne Corea.
Daeth cadarnhad gan dîm Qatar eu bod nhw eisoes wedi gwneud trefniadau i ddychwelyd adref.