Bydd Abertawe yn teithio i Anfield i herio Lerpwl a’u cyn-reolwr Brendan Rodgers ym mhedwaredd rownd Cwpan Capital One.

Curodd yr Elyrch Everton ac un arall o’u cyn-reolwyr, Roberto Martinez o 3-0 yn y drydedd rownd nos Fawrth – y tro cyntaf erioed iddyn nhw guro Everton mewn unrhyw gystadleuaeth.

Cyrhaeddodd Lerpwl y bedwaredd rownd yn dilyn gêm fwyaf cyffrous y rownd, wrth iddyn nhw drechu Middlesbrough o 14-13 ar giciau o’r smotyn, a hynny’n dilyn gêm gyfartal 2-2 yn ystod y 90 munud.

Bydd y gêm yng Nglannau Merswy yn cael ei chynnal ar Hydref 28.

Gemau’r bedwaredd rownd yn llawn:

Bournemouth v West Brom

Fulham v Derby

Lerpwl v Abertawe

Man City v Newcastle

MK Dons v Sheffield U

Amwythig v Chelsea

Stoke v Southampton

Spurs v Brighton