Mae rheolwr tîm pêl-droed Lerpwl wedi canmol perfformiad y Cymro 19 oed, Jordan Williams, wnaeth chwarae ei gem gystadleuol gyntaf yn Anfield neithiwr.
Fe sgoriodd y chwaraewr, sy’n wreiddiol o Fangor ac aeth i Ysgol y Garnedd yn y ddinas, gyda chic o’r smotyn – wnaeth yn y pen draw arwain at fuddugoliaeth i Lerpwl.
“Mae heno yn noson wych iddyn nhw [Jordan Rossiter a Jordan Williams] ac yn gam yn nes atyn nhw’n chwarae i’r tîm cyntaf yn rheolaidd,” meddai’r rheolwr Brendan Rodgers yn dilyn y gêm.
Enillodd Lerpwl yn erbyn Middelsborough o 14 cic o’r smotyn i 13.
Cynnwrf
Dywedodd ei gyn-athro yn Ysgol Y Garnedd, Rhun Griffiths, ar y Post Cyntaf y bore yma fod Jordan Williams wedi dangos dawn gyda’r bêl gron o oed ifanc.
“Roedd Jordan yn amlygu ei hun hyd yn oed yr adeg honno fel pêl-droediwr. Roedd ganddo wastad bêl hefo fo cyn yr ysgol, amser chwarae ac ar ôl yr ysgol.
“Mae cynnwrf mawr yn yr ysgol, pawb wrth eu bodd.”