Mae amddiffynnwr canol Abertawe Alan Tate wedi mynd ar fenthyg i Crewe Alexandra.

Prin fu ymddangosiadau Tate i’r Elyrch yn yr Uwch Gynghrair, ac mae’n symud i’r tîm sydd yn chwarae yn yr Adran Gyntaf am gyfnod o dri mis.

Mae Crewe ar waelod y tabl ar hyn o bryd.

Symudiadau Tate

Symudodd Tate i Abertawe yn barhaol yn 2004 yn dilyn cyfnod llwyddiannus ar fenthyg ac ers hynny, mae e wedi chwarae mewn mwy na 300 o gemau.

Ond dydy e ddim wedi chwarae i Abertawe ers mis Medi 2012.

Yn y cyfnod ers hynny, fe fu allan ar fenthyg gyda Leeds, Yeovil ac Aberdeen.

Mae disgwyl iddo gael ei enwi yng ngharfan Crewe i herio Colchester ddydd Sadwrn.