Bydd masnachwyr yn Abertawe yn gosod stondinau ar strydoedd y ddinas yr wythnos hon fel rhan o ymgyrch ‘Cefnogwch eich Stryd Fawr’ Llywodraeth Cymru.
Bydd y masnachwyr yn gosod stondinau ar Stryd Rhydychen, Stryd yr Undeb, y Stryd Fawr a Ffordd y Dywysoges o heddiw tan ddydd Sadwrn 27 Medi.
Bydd thema wahanol bob dydd. Mae’r themâu’n cynnwys masnachwyr annibynnol, technoleg ac adloniant cartref, hamdden a ffitrwydd, iechyd a harddwch, a ffasiwn a bwyd a diod.
Yn ogystal â’r stondinau, bydd gweithgareddau ac arddangosiadau am ddim ar gael hefyd.
Mae Cerdyn Ffyddlondeb Calon Fawr Abertawe hefyd yn cael ei ail-lansio ddydd Sadwrn 20 Medi i roi gostyngiadau mewn siopau annibynnol a stondinau masnachwyr lleol.
Trwy gydol yr wythnos, bydd pobl yn cael parcio am ddim yn holl feysydd parcio ceir NCP yng nghanol y ddinas drwy’r dydd.
Meddai’r Cynghorydd Robert Francis-Davies, aelod cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio: “Nod yr ymgyrch yw annog pobl i gefnogi canol y ddinas ac ailddarganfod manteision siopa’n lleol.
“Dros yr wythnos nesaf, byddwn yn dangos yr hyn sydd gan ganol y ddinas i’w gynnig, o’r masnachwyr annibynnol sy’n cynnig rhywbeth anarferol i’r siopau cenedlaethol rydym yn gyfarwydd â hwy.
“Bydd y digwyddiadau sydd wedi’u trefnu’n helpu masnachwyr i wella’u proffil, creu awyrgylch gwych ac annog siopwyr i ddychwelyd yn y dyfodol.”