Mae tua 82% o fusnesau twristiaeth yng Nghymru wedi adrodd cynnydd neu lefelau tebyg o ymwelwyr o’i gymharu â mis Awst 2013.

Mae ffigurau diweddaraf Arolwg Busnes Twristiaeth Llywodraeth Cymru yn dangos bod 45% o’r holl fusnesau wedi cael mwy o ymwelwyr neu westeion ym mis Awst eleni na chawson nhw fis Awst y llynedd a bod 37% ohonyn nhw wedi gweld lefelau tebyg o fusnes.

Yn ogystal, mae 59% o fusnesau llety â gwasanaeth – sy’n cynnwys gwestai, tai llety a gwely a brecwast – a 51% o weithredwyr parciau carafanau wedi adrodd lefelau uwch o fusnes nag ym mis Awst 2013.

Dywedodd 43% o atyniadau eu bod wedi gweld cynnydd yn eu busnes ac mae 76% o fusnesau yn teimlo’n hyderus ynghylch tymor yr Hydref.

‘Blwyddyn heb ei hail’

Wrth i’r ffigurau gael eu cyhoeddi, roedd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, yn ymweld ag Erddig, safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger Wrecsam.

Dywedodd Ken Skates: “Mae hi’n amser gwych i gymryd cyfrifoldeb y portffolio yma. Mae’n edrych fel pe bai 2014 yn flwyddyn heb ei hail i dwristiaeth Cymru, hyd yn oed o’i chymharu â 2013, a oedd yn ei hunan yn llwyddiannus iawn.

“Er bod y tywydd wedi bod yn garedig eleni, cafwyd haul ym Mhrydain i gyd – ond Cymru yw’r wlad sydd wedi perfformio orau o ran denu ymwelwyr ac ymwelwyr dydd. Mae ymgyrchoedd marchnata Croeso Cymru yn dwyn ffrwyth ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gyda’r Bwrdd Cynghori Twristiaeth Cymru i gyflawni ein targed a sicrhau twf o 10% erbyn 2020.”