Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i deulu dyn fu farw yn dilyn tân mewn tŷ yng Nghastell-nedd bron i bythefnos yn ôl.
Cafodd Phillip Owen, 62, ei ddarganfod yn farw yn ei gartref ar Ffordd Llundain yn dilyn y tân am tua 7:00yb ar 11 Medi.
Mae ei farwolaeth yn destun ymchwiliad ar ran y Crwner, sydd wedi methu dod o hyd i’w berthnasau agosaf.
Gofynnir i unrhyw un oedd yn adnabod Phillip Owen neu aelod o’i deulu i gysylltu â Swyddfa’r Crwner ar 01792 637792.