Mae’r heddlu ymchwilio wedi i ddyn fygwth dau fyfyriwr tramor yng Nghaerdydd gyda chyllell a dwyn eu heiddo.

Roedd un dyn ac un ddynes o China yn cerdded yn ôl i’w neuaddau preswyl, Allensbank House, am tua 9yh pan wnaeth y dyn eu stopio a cheisio eu gorfodi i roi ffon symudol iddo.

Fe wrthododd y ddau a rhedeg i ffwrdd ond fe ddaeth y dyn ar eu holau, a’u bygwth gyda chyllell yn ardal Y Mynydd Bychan. Fe wnaeth y ddynes roi ei phwrs i’r dyn.

Disgrifiad

Dywedodd swyddogion o Heddlu De Cymru fod y dyn rhwng 20 a 26 oed tua 5’6 o daldra a bod ganddo wallt tywyll. Roedd yn gwisgo siaced ddu a throwsus du ar adeg y digwyddiad.

“Rydym yn awyddus iawn i siarad hefo unrhyw un sydd wedi dod o hyd i gardiau banc neu gyllell ger neuadd Allensbank House i gysylltu â ni ar frys.

“Buasem yn hoffi cysuro myfyrwyr yn yr ardal nad ydy digwyddiad fel hyn yn digwydd yn aml a’n bod yn ymchwilio er mwyn dod o hyd i’r dyn sy’n cael ei amau o’r drosedd.”

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y lladrad i gysylltu â Heddlu De Cymru ar 01656 655555.