Huw Lewis
Bydd Llywodraeth Cymru heddiw’n amlinellu ei gweledigaeth “uchelgeisiol” ar gyfer pobl sy’n gweithio ym meysydd addysg blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae yng Nghymru.
Bydd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg, yn ymweld ag Ysgol Gynradd Herbert Thompson yng Nghaerdydd i lansio’r cynllun drafft 10 mlynedd o hyd.
Mae’r cynllun yn amlinellu’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi unigolion sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol am addysg neu ofal plant y blynyddoedd cynnar – sef plant rhwng 0 a 7 oed.
Mae’r cynllun yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion pobl sy’n gweithio mewn bob math o leoliadau blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae cofrestredig, yn enwedig datblygiad proffesiynol y bobl hynny.
Ymhen 10 mlynedd, nod Llywodraeth Cymru yw cael gweithlu sy’n deall sut mae plant yn dysgu a datblygu ac sy’n gallu cefnogi pob plentyn i ddatblygu i’w llawn botensial.
Mae’r Llywodraeth hefyd eisiau “codi statws” gofalwyr yn y blynyddoedd cynnar a sicrhau fod pawb sy’n gweithio gyda phlant ifanc yn ddwyieithog
Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun drafft yn agored tan 15 Rhagfyr. Mae disgwyl i’r cynllun terfynol gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2015.
Cyn ei ymweliad ag Ysgol Gynradd Herbert Thompson heddiw, lle bydd yn arsylwi ar sesiwn hyfforddi, dywedodd Huw Lewis:
“Mae’r blynyddoedd o 0-7 oed yn gyfnod hanfodol yn natblygiad plentyn. Mae’n bwysig, felly, fod gan unigolion fel y rheini y byddaf i’n cyfarfod â nhw heddiw, sy’n chwarae rôl mor allweddol i gefnogi plant yn ystod y blynyddoedd pwysig hyn, y lefel iawn o gefnogaeth. Mae’n hanfodol eu bod nhw’n cael eu symbylu a’u bod nhw’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
“Rydyn ni’n benderfynol o godi statws gofalwyr yn y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae i lefel sy’n adlewyrchu’n well y rôl hanfodol y mae’r ymarferwyr hyn yn eu chwarae i gefnogi datblygiad plant.”