David Cameron
Bydd Torïaid amlwg yn cwrdd a’r Prif Weinidog yn Chequers heddiw i drafod cynlluniau ar gyfer diwygio gwleidyddiaeth San Steffan mewn ymateb i ganlyniad refferendwm yr Alban.

Mae adduned David Cameron i ddatganoli pwerau pellach i’r Alban heb ymgynghori â gweddill y DU yn “warthus” yn ol yr Aelod Seneddol Ceidwadol David Davis, tra bod y cyn weinidog Owen Paterson wedi dweud bod ASau yn cael eu cadw yn y tywyllwch ynglŷn â’r cynlluniau.

Rhybuddiodd Owen Paterson, a gafodd ei ddiswyddo y tro diwethaf i Cameron ad-drefnu ei gabinet, bod y Prif Weinidog yn wynebu’r posibilrwydd o golli’r etholiad cyffredinol nesaf oni bai ei fod yn mabwysiadu “polisïau gwirioneddol Geidwadol” fel toriadau treth, mesurau i fynd i’r afael â mewnfudo a safiad cliriach ar Ewrop.

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud bod yn rhaid i ddatganoli pellach i Holyrood – addewid a wnaed gan y tair prif blaid yn San Steffan yn ystod ymgyrch y refferendwm – fynd law yn llaw gydag ymdrech i sicrhau mai ASau Lloegr yn unig fyddai’n gallu pleidleisio ar gyfreithiau sydd yn berthnasol i Loegr.

Bydd ateb i gwestiwn West Lothian, sef os ddylai ASau Albanaidd gael pleidleisio ar faterion sydd ddim yn berthnasol i’w hetholwyr ers datganoli, yn cael ei ystyried gan yr ASau yn Chequers heddiw.

Mae’r trafodaethau o dan y teitl “pleidleisiau Lloegr i ddeddfau Lloegr” yn cael ei ystyried fel ymgais dawelu’r meinciau cefn Ceidwadol sydd wedi bod yn bygwth gwrthryfel dros ddiwygio cyfansoddiadol.