Carwyn Jones
Fe fydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn rhybuddio David Cameron heddiw bod angen cadw at ei addewidion ynglŷn â rhoi pwerau ychwanegol i’r Alban a hefyd bod angen ystyried pryderon Cymru.
Bydd Carwyn Jones yn annerch cynhadledd y Blaid Lafur ym Manceinion ac mae disgwyl iddo alw ar David Cameron i geisio “ail-adeiladu’r” Deyrnas Unedig yn sgil canlyniad refferendwm yr Alban.
Bydd yr AS Owen Smith, yn defnyddio’i araith i feirniadu’r ymdrech i ganiatáu i ASau o Loegr yn unig bleidleisio ar ddeddfwriaeth sy’n effeithio Lloegr yn unig.
Dywedodd Carwyn Jones wythnos diwethaf ei fod eisiau i Gymru fod wrth galon y drafodaeth ynglŷn â sut i wneud i’r DU weithio ar ran yr holl genhedloedd.
Yn y cyfamser mae disgwyl i Ed Balls gyhoeddi y byddai llywodraeth Lafur yn parhau i gyfyngu ar fudd-dal plant am o leiaf dwy flynedd.
Mae disgwyl i’r canghellor cysgodol ddweud bod y cyfyngiad o 1% ar fudd-dal plant yn un o’r “penderfyniadau anodd” y byddai’n rhaid i’r blaid ei wneud petai’n dod i rym y flwyddyn nesaf, gan ddweud y byddai’n arbed £400 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr dros gyfnod o bum mlynedd.
Bydd hefyd yn dweud y bydd cyflogau gweinidogion yn cael ei dorri 5% a’u rhewi nes bod y sefyllfa economaidd yn gwella.
O dan fesurau’r Glymblaid cafodd budd-dal plant ei rewi rhwng 2010 a 2014 gyda chynnydd o 1% o fis Ebrill.