Tony Blair
Dylai’r DU a gwledydd gorllewinol eraill fod yn barod i anfon milwyr ar y tir i ymladd yn erbyn eithafwyr Islamaidd fel Islamic State, meddai’r cyn Brif Weinidog Tony Blair.

Dywedodd na fydd ymosodiadau o’r awyr yn ddigon i drechu IS, neu grwpiau tebyg, ac er y gallai hyfforddi ac arfogi ymladdwyr lleol weithio, ni ddylid diystyru anfon milwyr Prydeinig i ymladd.

Ychwanegodd y dylai’r frwydr yn erbyn eithafiaeth Islamaidd gael ei weld fel brwydr ryngwladol a chymharodd eithafiaeth Islamaidd gydag ideolegau ffasgaidd a chomiwnyddol y ganrif ddiwethaf.

Fe wnaeth y cyn Brif Weinidog ei sylwadau mewn traethawd ar wefan Sefydliad Ffydd Tony Blair.

Dywedodd fod eithafwyr fel IS – oedd yn cael eu hadnabod fel Isis – yn “ffanatigiaid” a’u bod yn “barod i ladd ac i farw”. Meddai nad oes ateb i’r broblem sydd ddim yn cynnwys grym a bod rhaid i bwerau’r gorllewin fod yn barod i golli rhai o’u milwyr a bod yn barod i frwydro “hyd y diwedd”.

Mae’r Unol Daleithiau a Ffrainc eisoes wedi lansio ymosodiadau o’r awyr yn erbyn targedau IS, a dyw’r DU heb ddiystyru ymuno â’r ymgyrch fomio yn erbyn yr eithafwyr, sydd wedi meddiannu ardal fawr o Irac a Syria.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyflenwi arfau i ymladdwyr Cwrdaidd yn Irac i’w cynorthwyo yn eu brwydr yn erbyn IS.