Senedd yr Alban
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud bod yr addewid am bwerau ychwanegol i’r Alban yn gwbl ddiamod ac y bydd yn cael ei wireddu.
Roedd yn ymateb i bryderon y bydd anghytundeb ynghylch cyfyngu hawliau Aelodau Seneddol o’r Alban yn San Steffan yn dal y broses yn ôl.
Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, mai’r ffactor allweddol ym muddugoliaeth yr ochr Na yn y refferendwm oedd yr addewid am bwerau ychwanegol.
“Mae’r bobl a bleidleisiodd Na am fod yn flin iawn am gael eu camarwain ag addewid na all pleidiau San Steffan gytuno arno,” meddai.
“Arweinwyr San Steffan sydd wedi cael eu hunain i’r llanast yma. Mae problem fawr yma, ond fe ddylen nhw fod wedi meddwl am hyn cyn gwneud eu haddewid taer i bobl yr Alban.”
Roedd Alistair Darling, arweinydd y mudiad Better Together dros bleidlais Na, hefyd wedi rhybuddio nad oedd unrhyw ddewis gan arweinwyr y tair plaid ond cadw at eu haddewid.
‘Dim amodau’
Ar y cychwyn, roedd David Cameron wedi dweud bod angen i’r broses o drosglwyddo pwerau ychwanegol i’r Alban ddigwydd law yn llaw â newidiadau yn San Steffan. Fe fyddai hyn yn cynnwys trefn lle mai Aelodau Seneddol o Loegr yn unig a fyddai’n cael pleidleisio ar faterion yn ymwneud â Lloegr yn unig.
Mae gwrthwynebiad arweinydd Llafur, Ed Miliband, i gynlluniau o’r fath wedi arwain at amheuon a fydd modd cadw at yr addewid i’r Alban.
Fodd bynnag, dywedodd llefarydd ar ran Stryd Downing heddiw nad oedd y pwerau ychwanegol i’r Alban yn dibynnu ar gael cytundeb ar beth fyddai’n digwydd yn Lloegr.
“Mae hyn am ddigwydd deued a ddelo heb os nac oni bai,” meddai’r llefarydd. “Nid yw’n ddibynnol ar ddim byd.”