Christopher Salmon, Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys
Mae Comsiynydd Heddlu Dyfed-Powys, Christopher Salmon, wedi ymateb yn chwyrn i gynlluniau Llafur i gael gwared ar gomisiynwyr yr heddlu.

Wrth gyhoeddi’r cynlluniau yng nghynhadledd y Blaid Lafur ym Manceinion, dywedodd y cysgod Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper ei bod yn amlwg mai methiant oedd y syniad o gomisiynwyr heddlu wedi eu hethol yn uniongyrchol.

Byddai llywodraeth Lafur, meddai, yn arbed £50 miliwn trwy ddileu’r etholiadau nesaf sydd i fod i gael eu cynnal yn 2016.

Ond camgymeriad fyddai hyn, yn ôl Christopher Salmon:

“Mae Yvette Cooper yn ceisio mynd at atebolrwydd yr heddlu yn ôl i fyd tywyll bargenion dirgel rhwng Prif Gwnstabliaid a chynghorwyr lleol,” meddai.

“Mae Comisiynwyr yr Heddlu wedi taflu goleuni ar y ffordd y caiff yr heddlu ei lywodraethu. Maen nhw’n rhoi llais clir i’r cyhoedd. Dylai’r llais hwnnw gael ei gryfhau trwy ei ddiwygio, nid ei ddileu.”