Mae’r heddlu yn Abertawe’n dal i ymchwilio i farwolaeth dyn ym Mhontardawe ddechrau’r mis.
Cafwyd hyd i gorff John Griffiths yng nghamlas Stryd Herbert yn y dref tua 9 fore Llun 1 Medi.
Mae tri dyn yn y ddalfa’n cael eu holi gan yr heddlu.
Wrth apelio am wybodaeth gan y cyhoedd, meddai’r Uwcharolygydd Andy Kingdom:
“Os oeddech chi yng nghyffiniau’r gamlas rhwng 6pm nos Sul 31 Awst ac 8.50am fore Llun 1 Medi, dw i’n pwyso arnoch i gysylltu â’r heddlu ar unwaith gan y gallech fod â gwybodaeth, waeth pa mor fath, a allai helpu’n hymchwiliad.
“Rydym yn arbennig o awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi sylwi ar helynt a oedd yn cynnwys Mr Griffiths.”
Digwyddiad prin
Ychwanegodd yr Uwcharolygydd Kingdom:
“Hoffem sicrhau cymuned Pontardawe mai digwyddiad digyswllt oedd yr un a arweiniodd at farwolaeth Mr Griffiths. Mae digwyddiadau o’r fath yn brin iawn.”
Gofynnir i unrhyw un a all helpu’r heddlu eu ffonio ar 101 gan grybwyll cyfeirnod 1400322939, neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.