Mae arolwg barn a gafodd ei gynnal yn yr Alban ar ôl y refferendwm yr wythnos ddiwethaf yn dangos mwy o gefnogaeth i’r SNP nag a roddwyd i annibyniaeth.
Yn ôl yr arolwg o sampl o 900 o bobl gan y cwmni Survation, mae 49% o bobl yr Alban yn bwriadu cefnogi’r SNP yn yr etholiad nesaf i senedd yr Alban yn 2016 – sy’n uwch na’r hyn a gafodd yn 2011 wrth ennill mwyafrif dros bawb.
Mae hyn yn cymharu â’r 44% a bleidleisiodd dros annibyniaeth yr wythnos ddiwethaf.
Mae’r arolwg yn dangos hefyd bod 35% yn bwriadu pleidleisio i’r SNP yn etholiad cyffredinol Prydain fis Mai nesaf. Os caiff hyn ei wireddu, dyma fyddai perfformiad gorau’r SNP mewn unrhyw etholiad San Steffan.
Roedd Llafur fymryn ar y blaen i’r pleidiau eraill – ar 39% – ar gyfer etholiad San Steffan ond ymhell y tu ôl i’r SNP, ar 33%, ar gyfer etholiad senedd yr Alban.
Ar y llaw arall, roedd mwyafrif y bobl a gafodd eu holi’n credu na ddylai fod refferendwm arall ar annibyniaeth am o leiaf 15 mlynedd arall.
Wrth groesawu canlyniadau’r arolwg, meddai llefarydd ar ran yr SNP:
“Mae pobl yn cefnogi’r SNP oherwydd eu bod nhw’n ymddiried ynon ni i weithio er budd yr Alban. Fe fyddwn ni’n dal i weithio’n galed i haeddu eu hymddiriedaeth, ac yn dal i gyflawni pethau dros yr Alban.”