Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd cyfres dditectif Y Gwyll yn dychwelyd ar gyfer un bennod arbennig ar Ddydd Calan.

Bydd Richard Harrington yn ei ôl fel DCI Tom Mathias ac mae S4C yn addo “dirgelwch newydd sy’n siŵr o godi blew eich gwar.”

Dywedodd y cynhyrchydd Gethin Scourfield fod y “cast a’r criw talentog wedi bod yn ffilmio ers pythefnos.”

“Mae’r awyrgylch ar y set yn wych ac mae yna lawer o gyffro am y bennod nesaf a’r gyfres nesaf sydd i ddilyn.”

Cafodd y gyfres gyntaf ei dangos ar S4C cyn cael ei darlledu ar BBC Cymru a BBC Four. Yn ddiweddar mae Y Gwyll/Hinterland wedi ei phrynu gan wasanaeth VOD NETFLIX, a bydd ar gael trwy eu gwasanaethau yn yr Unol Daleithiau, Canada a Sgandinafia.

Yn niweddglo’r gyfres gyntaf roedd DCI Tom Mathias – cyn dditectif gyda Heddlu’r Met yn Llundain sy’n byw o ddydd i ddydd dan gysgod tywyll ei orffennol – yn cael ei wthio at y dibyn.

Bydd Y Gwyll yn cael ei dangos ar S4C ar nos Iau, Ionawr 1 am 9 o’r gloch.