Dave Lee Travis (Llun: PA)
Mae’r rheithgor yn achos y cyflwynydd teledu a radio Dave Lee Travis wedi dechrau ystyried eu dyfarniad.

Mae Travis wedi’i gyhuddo o ymosod yn anweddus ar ddwy ddynes ac o ymosod yn rhywiol ar ddynes arall.

Mae’r erlyniad yn Llys y Goron Southwark wedi’i bortreadu fel “oportiwnydd” oedd yn meddwl fod ganddo “berffaith hawl” i ymosod ar ferched.

Ail achos

Hwn yw’r ail achos y mae Travis – neu David Griffin yn ôl ei enw iawn – wedi’i wynebu ar ôl i reithgor yn yr achos gwreiddiol fethu â dod i benderfyniad ar ddau o’r cyhuddiadau.

Yr honiad yw fod yr ymosodiadau anweddus hynny wedi digwydd pan oedd e’n ymddangos mewn pantomeim yn y 1990au a phan ymwelodd newyddiadurwraig â’i gartref yn 2008.

Mae e hefyd wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad newydd o ymosod yn anweddus ar ymchwilydd ar y rhaglen The Mrs Merton Show yn 1995.

Gwadu

Mae Dave Lee Travis wedi pledio’n ddieuog i’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn, gan honni bod y tair yn dweud celwydd.

Mae’r barnwr yn yr achos, Anthony Leonard wedi dweud wrth y rheithgor i anwybyddu achosion llys eraill yn erbyn enwogion yn dilyn sgandal Jimmy Savile.