Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud ei bod yn “hurt ac yn sarhaus” fod asiantaeth yrru yn un o gadarnleoedd y Gymraeg wedi methu darparu profion gyrru yn Gymraeg.

Ar ôl trefnu i wneud y profion Cymraeg ar wefan y DVSA, cafodd pobol o ardal y Bala wybod mai arholwr Saesneg fyddai’n arwain y prawf.

Rhoddwyd y dewis iddyn nhw aros am chwe wythnos i gael gwneud prawf Cymraeg.

Mewn llythyr at y DVSA, mae’r Gymdeithas yn dweud ei fod yn “fater o hawl” bod pob person yng Nghymru yn cael dewis sefyll eu prawf gyrru yn Gymraeg os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny.

Hawl

Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mewn llythyr:

“Credwn ei fod yn fater o hawl i bob un yng Nghymru i dderbyn profion gyrru yn Gymraeg, mae hynny’n arbennig o wir yn y Bala, ardal lle mae dros saithdeg y cant o bobol yn siarad Cymraeg”.

“Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, ac mae’ch methiant i ddarparu gwasanaeth Cymraeg yn yr ardal yn hurt, sarhaus ac yn tramgwyddo ar hawliau iaith sylfaenol pobol yr ardal.

“Os nad ydych yn adfer y gwasanaeth Cymraeg yn syth, byddwn ni’n cysylltu’n bellach gyda Chomisiynydd y Gymraeg gan ofyn iddi ddefnyddio’r camau gorfodi sydd ganddi i sicrhau eich bod yn cydymffurfio gyda’ch dyletswyddau moesol a statudol.”

Mae’r DVSA wedi dweud eu bod yn ymwybodol o’r broblem ac yn ceisio datrys y sefyllfa yn yr ardal.

Ar hyn o bryd mae 14 o’r 88 o’u harholwyr yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg.