Bryn Parry Jones (llun y cyngor)
Fe fydd aelodau o Gyngor Sir Benfro yn trafod dyfodol y Prif Weithredwr Bryn Parry Jones mewn cyfarfod pwyllgor disgyblu heddiw.

Mae’n dilyn pleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn y Prif Weithredwr yr wythnos diwethaf, yn dilyn ffrae ynglŷn â thaliadau anghyfreithlon.

Daeth Swyddfa Archwilio Cymru i’r casgliad fod  Bryn Parry Jones  a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin, Mark James, wedi derbyn taliadau pensiwn o dros £50,000 yn syth i’w cyfrifon banc.

Bydd y pwyllgor yn trafod materion yn ymwneud ag ymddygiad, ymddiriedaeth a’r hyder yn y Prif Weithredwr ac yn penderfynu os bydd yn cael ei atal o’i waith dros dro.

Ymchwiliad

Dim ond ers 9 Medi mae Bryn Parry Jones yn ôl wrth ei waith ar ôl i Arweinydd y Cyngor, Jamie Adams, gyhoeddi fod y Prif Weithredwr yn cymryd seibiant o’i swydd.

Fis Gorffennaf cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys a Heddlu Sir Gaerloyw eu bod yn ail-ymchwilio i honiadau fod Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro wedi derbyn taliadau “anghyfreithlon”, a hynny wedi iddyn nhw dderbyn gwybodaeth newydd.