Leanne Wood gyda Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn gynt eleni
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw ar i Gymru gael yr un pwerau ag y bydd yr Alban yn eu cael.

“Dyna’r lleia’ y gall Cymru ei ddisgwyl,” meddai Leanne Wood ar ôl canlyniad y refferendwm, pan benderfynodd pobol yr Alban yn erbyn annibyniaeth.

Sôn am degwch cymdeithasol a wnaeth y Llefarydd Llafur ar Gymru yn Nhŷ’r Cyffredin, Owen Smith, heb ddweud dim am newid cyfansoddiadol.

Roedd llawer o bobol Cymru yn cytuno gyda barn pobol yr Alban, meddai Owen Smith, bod angen llywodraeth sy’n ei deall ac yn rhannu cyfoeth a chyfle’n fwy cyfartal.

“Mater i Lywodraeth Lafur fydd cwrdd â’u disgwyliadau,” meddai.

Cydweithio – Kirsty Williams

Fe ddylai holl bleidiau Cymru ddod at ei gilydd i ymgyrchu tros bwerau pellach, yn ôl arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams.

Fel arall, meddai, roedd peryg i Gymru gael ei gwthio i’r ymylon a’i llais yn cael ei wanhau. Ac fe alwodd ar bob plaid i gefnogi’r argymhellion  a wnaeth Comisiwn Silk i ddatganoli rhai grymoedd trethu.

“Rhaid i Lafur a’r Ceidwadwyr roi trefn ar eu pethau a gwneud yn glir i bobol Cymru ble maen nhw’n sefyll o ran datganoli grym,” meddai.

Silk yw’r model – y Ceidwadwyr

Mae adroddiadau Comisiwn Silk yn rhoi sylfaen i drafod dyfodol datganoli yng Nghymru, meddai arweinydd Ceidwadwyr Cymru, Andrew R T Davies.

Fyddai’r hyn sy’n cael ei gynnig i’r Alban ddim yn addas i Gymru, meddai ar Radio Wales.

Ac fe bwysleisiodd fod y bleidlais yn yr Alban yn bleidlais “dros gadw’r Undeb”.

Dim Confensiwn

Dyw Prif Weinidog Prydain, David Cameron, ddim wedi derbyn argymhelliad Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, i gael Confensiwn ar Gyfansoddiad Gwledydd Prydain.

Ond fe alwodd Leanne Wood hefyd am “broses newydd yn cynnwys holl genhedloedd y Deyrnas Unedig i sicrhau datganoli sylweddol ac arwyddocaol”.