David Cameron yn yr Alban ar ddechrau'r broses
Mae Prif Weinidog Prydain David Cameron wedi dweud bod rhaid symud ymlaen at drefniant “cytbwys” ar gyfer llywodraethu gwledydd Prydain i gyd.

  • Mae wedi cyhoeddi y bydd Lloegr yn cael cyfle i bleidleisio ar ei materion ei hun ac fe fydd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, William Hague, yn cael y gwaith o gynllunio hynny.
  • Yn yr Alban, fe fydd yr Arglwydd Smith o Kelvin yn arwain y gwaith o gynllunio sut y bydd addewidion y pleidiau mawr yn cael eu gweithredu ym maes trethi, lles a gwario.
  • Yr unig awgrym i Gymru oedd y byddai’n cael rhagor o bwerau treth – fe ddywedodd David Cameron ei fod eisiau i Gymru gymryd “rhan lawn” yn y drafodaeth i gael Teyrnas Unedig “sy’n gweithio’n dda” er lles y pedair cenedl.

Wrth groesawu penderfyniad pobol yr Alban i bleidleisio yn erbyn annibyniaeth, fe ddywedodd David Cameron bod y mater wedi ei setlo am genhedlaeth ac na fyddai’r cwestiwn yn cael ei godi eto..

“Mae angen setliad cytbwys i bobol yr Alban ond, hefyd, yn bwysig iawn, i bobol Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon,” meddai.

Yr amserlen

Wrth addo cynllun i’r Alban erbyn mis Tachwedd a deddf ddrafft erbyn mis Ionawr 2015, fe ddywedodd y byddai’n rhaid i’r trefniadau ar gyfer rhannau eraill gwledydd Prydain ddigwydd yr un pryd.

“Mae pobol yr Alban wedi llefaru,” meddai. “Maen nhw wedi cadw ein gwlad o bedair cenedl ynghyd.

“Maen nhw wedi penderfynu tros Alban gryfach gyda chefnogaeth a grym Prydain y tu cefn iddi.”