Cyngor Gwynedd wedi gwneud datganiad
Mae achosion o’r haint stumog norofirws wedi taro degau o blant mewn ysgol yng Ngwynedd.

Mae Golwg360 yn deall bod tua 150 o blant wedi bod yn sâl heddiw yn Ysgol Uwchradd Brynrefail yn Llanrug ger Caernarfon a llawer wedi cael eu hanfon adref o’r ysgol.

Yn ôl un rhiant, roedd plant “yn bod yn sâl ar hyd y lle” ac roedd sgwad o lanhawyr wedi cael eu galw yno.

Gofyn i blant sâl aros gartre’

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau fod yr ysgol wedi cael ei heffeithio gan y norofirws ac yn rhybuddio plant sydd â symptomau i aros adref.

“Gallwn gadarnhau fod nifer anghyffredin o ddisgyblion i ffwrdd yn sâl o Ysgol Brynrefail. Mae’r ysgol yn cydweithio’n agos gyda Adran Addysg y Cyngor a gyda’r Adran Iechyd Cyhoeddus i ddelio efo’r sefyllfa,”meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.

“Mae’r ysgol yn parhau i fod yn agored ond mae staff, disgyblion a rhieni wedi eu cynghori i gadw draw os ydynt yn dangos symptomau o salwch, ac i aros adref am 48 awr ar ôl gwella.”

Mae rhieni wedi cael nodyn yn egluro symtimau’r haint, gan gynnwys “gwres uchel, cur pen, taflu fyny a/neu ddolur rhydd”.

Does dim esboniad wedi’i roi eto beth sydd wedi achosi’r heintio.