7.00: Y penawdau. Yr Alban wedi pleidleisio o tua 55-45 yn erbyn annibyniaeth. Ond pob plaid yn cydnabod bod gwleidyddiaeth wedi newid. Y cwestiwn mawr nesa yw beth yn union fydd y pleidiau mawr yn ei roi i’r Alban – mae disgwyl i David Cameron, Prif Weinidog Prydain, wneud araith toc.

6.47: Dim ond pedair ardal sydd wedi pleidleisio Ie – Dundee gyda 57% o’r bleidlais, West Dunbartonshire – 54%, Glasgow – 53%, North Lanarkshire – 51%.

6.44: Alistair Darling yn dweud bod rhaid i’r holl bleidiau gadw at yr ymrwymiadau yr oedden nhw wedi eu gwneud. Ac mae angen arweinyddiaeth dda, meddai, i dynnu pobol at ei gilydd eto.

6.42: Alistair Darling yn dweud bod rhaid i bob plaid wrando ar y bobol oedd wedi galw am newid – ac fe allai hynny ddigwydd trwy wledydd Prydain, ond mai’r Alban oedd wedi cael y cyfle cynta’ i fynegi eu barn.

6.40: Alistair Darling yn ei anerchiad yn dweud bod pobol yr Alban wedi dewis unoliaeth yn hytrach na “gwahanu diangen”. Roedd yn ganlyniad pwysig i’r Deyrnas Unedig hefyd – “na foed i’r clymau gael eu torri fyth”.

6.38: Alistair Darling, arweinydd yr Ymgyrch Na, yn dweud bod hon yn “noson ryfeddol” a’i fod yn teimlo’n wylaidd o weld lefel y gefnogaeth ac ymdrechion y gwirfoddolwyr.

6.37: John Curtice, o Brifysgol Strathclyde, yn awgrymu mai pobol mwy oedrannus a dosbarth canol oedd wedi pleidleisio gryfa’ tros Na.

6.35: Aled Roberts, AC y Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar i’r pedair plaid yng Nghymru gydweithio i gael rhagor o bwerau.

6.32: Iolo Cheung o Gaeredin: “Dim ond un ardal sydd heb gyhoeddi, ond mae’r canlyniad wedi bod yn amlwg ers sbel.

“Fe ymgasglodd torf fawr o ymgyrchwyr Na o flaen y prif lwyfan yma yng nghanolfan gyfrif Caeredin ychydig funudau yn ol, i glywed canlyniad y bleidlais ynm mhrifddinas yr Alban.

“A chawson nhw ddim mo’u siomi, wrth i Gaeredin bleidleisio Na gyda mwyafrif swmpus. Hapusrwydd a rhyddhad ydi’r teimlad yn eu plith ar hyn o bryd – er i un ymgyrchwr i mi siarad efo gymryd i cyfle i feirniadu’r ffaith bod angen cynnal y refferendwm yma yn y lle cyntaf.

“Ar y llaw arall, digon tawel a digalon yw’r ymgyrchwyr Ie sydd yn eistedd i fyny’r grisiau. Maen nhw’n amlwg yn siomedig tu hwnt gyda’r canlyniad, a chyda rhai ohonynt wedi bod ar eu traed ers 24 awr bellach fe allai ddeall pam nad oedd gan rai ohonyn nhw awydd i siarad mwy am y peth.

“Serch hynny, does neb wedi anghofio addewidion y pleidiau unoliaethol am fwy o bwerau i’r Alban, a’r sialens i’r ddwy ochr yma nawr fydd dod at ei gilydd i geisio mynd i’r afael gyda’r broblem honno.”

6.30: Yr arweinydd Llafur yn yr Alban, Johann Lamont, yn cytuno bod angen newid, na all pethau fynd yn ol. Galw hefyd am chwilio am dir cyffredin rhwng y pleidiau. Hyn, efallai, yn cydnabod bod niferoedd mawr o bleidleiswyr Llafur wedi pleidleisio tros Ie.

6.28: Un arall o gyn Ysgrifenyddion Cymru, John Redwood, wedi trydar yn dweud mai dyma’r amser “i siarad dros Loegr”. Neithiwr eto roedd yn galw am senedd i Loegr … ond heb ddatganoli i’r rhanbarthau yno. Fe fyddai Senedd Brydeinig hefyd i drafod materion rhwng yr holl wledydd.

6.27: Yr arweinydd Llafur yn yr Alban, Johann Lamont, yn cael ei dyfynnu’n dweud nad oedd yn hapus gydag agwedd araith Alex Salmond.

6.26: Cyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, wedi dweud y bydd rhaid i ymateb Llywodraeth Prydain fod yn sylweddol ac yn gyflym.

6.25: Dim ond un canlyniad i ddod – o’r Ucheldiroedd. Ond mae problemau gyda’r cyfri.

6.24: Alex Salmond yn dweud na fyddai neb ychydig yn ol wedi gallu dychmygu cystal pleidlais. Roedd y symudiad torfol wedi dychryn y sefydliad yn Llundain. Ac fe addawodd y byddai’r Alban yn mynd ymlaen ynghyd. Gadawodd y llwyfan i fanllefau mawr unwaith eto.

6.20: Alex Salmond yn dweud y bydd lefel uchel y cymryd rhan yn y refferendwm  yn golygu na fydd hi’n bosib mynd yn ol i bethau fel yr oedden nhw.

6.19: Alex Salmond yn dweud y bydd pob Albanwr sydd wedi pleidleisio yn mynnu y bydd y pleidiau Prydeinig yn cadw at eu haddewid o ragor o ryma chadw at yr amserlen. Dweud y bydd yn siarad gyda David Cameron yn fuan.

6.17: Lefel y bleidlais yn 86%, meddai Alex Salmond. Hynny “ymhlith yr uchaf yn y byd democrataidd erioed”. Roedd hynny, meddai, yn glod i’r Alban. Un canlyniad – fyddai neb yn amau gallu pobol ifanc 16 oed i gymryd rhan.

6.16: Alex Salmond yn galw ar i bawb ei ddilyn a derbyn dyfarniad democrataidd pobol yr Alban.

6.15: Alex Salmond yn dechrau trwy ddiolch am 1.6 miliwn o bleidleisiau tros annibyniaeth.

6.13: Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, yn dod i’r llwyfan i annerch ei gefnogwyr. Banllefau o gymeradwyaeth.

6.12: Prif Weinidog Prydain David Cameron yn dweud y bydd yn rhoi anerchiad tua 7.00.

6.10: Moray: Ie 42.5%  (27,232)   Na 57.5% (56,935)

6.08: Fife Ie 45% (114,148)  Na 55% (139,788)

Mae hynna’n golygu bod Na wedi ennill.

6.00 Y dirprwy Brif Weinidog, Nicola Sturgeon, yn cydnabod bod Na wedi ennill.

5.57 Mae’n edrych yn sicr bellach – dim ond 85,000 sydd eu hangen ar Na – mae Ie yn brin o fwy na 420,000.

5.56: Argyll and Bute Ie 41.5% (26,324)  Na 58.5% (37,143)

5.53: Aberdeenshire  Ie 39.6% (71,337)  Na 60.4% (108,606)

5.52: Caeredin Ie 61% (123,927) Na 39% (194,000)

5.48: Prif Weinidog Prydain, David Cameron, yn dweud ei fod wedi ffonio arweinydd yr Ymgyrch Na, Alastair Darling, i’w longyfarch ar ymgyrch dda.

5.43: Pennawd y Daily Mail – “Britain Breathes Again”.

5.42: Yr ymateb cynta’ gan Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, yn llongyfarch Glasgow “ein dinas cymanwlad” a phobol yr Alban am gymaint o gefnogaeth.

5.38: O’r 26 awdurdod, dim ond 4 sydd wedi pleidleisio o blaid. Mae John Curtice, yr athro o Brifysgol Strathclyde yn awgrymu buddugoliaeth i Na o tua 55-45. Mae angen tua 425,000 yn rhagor o bleidleisiau ar yr ochr Na i ennill.

5.26: Nicola Sturgeon, y Dirprwy Brif Weinidog, yn dweud ar y teledu pa mor siomedig yw hi nad oedd hi erioed wedi brwydro mor galed mewn ymgyrch. Ond hefyd mai dyma’r peth gorau yr oedd hi wedi cymryd rhan ynddo yn ei bywyd.

5.21: Y cyn weinidog Llafur yn San Steffan, John Reid yn awgrymu mai pleidlais brotest oedd hi yn Glasgow – hynny ddim yn plesio cefnogwyr Ie.

5.13: Nicola Sturgeon yn dweud nad pleidlais tros y status quo yw hon. “Mae’n rhaid i ni wneud yn sicr bod llais pobol yr Alban yn cael ei glywed,” meddai. “Mae yna awch am newid. All yr Alban ddim aros yr un peth.”

Gyda disgwyl y bydd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, yn debyg o gynnig Confensiwn, fe ddywedodd y byddai hi’n barod i gymryd rhan mewn unrhyw beth a fyddai’n rhoi grym i’r Alban.

5.09 West Lothian Ie  45% (53,342)   Na 55% (65,682)

5.07: East Ayrshire: Ie 47% (39,762)   Na 53% ( 44,442)

5.03: South Ayrshire: Ie 42% (34,402)  Na 58% (47,247)

5.01: Un patrwm sydd i’w weld – ardaloedd dosbarth gwaith fel Glasgow a North Lanarkshire yn pleidleisio Ie. Un ddamcaniaeth – y bobol gydag arian i’w golli oedd wedi cael eu dychryn gan rybuddion y banciau a’r busnesau mawr.

4.55 North Ayrshire: Ie 49% (47,072)  Na 51% (49,016)

Y cyfanswm wedi newid wedi Glasgow – Ie 44.7% Na 55.3%

4.54: Scottish Borders Ie 35% (27,906) Na 67% (55,553)

4.52: Glasgow Ie 53.5% (194,590)  Na 46.5% (169.347)

4.47: Y cyfanswm erbyn hyn Ie 44.7% Na 55.3%. Dim ond tair ardal sydd wedi mynd o blaid Ie.

4.46: Perth and Kinross Ie 60% (41,475)  Na 40% (62,700)

4.43: South Lanarkshire Ie 45% (100,990) Na 55% (121,800)

4.42: North Lanarkshire Ie 51.1% (118,783) Na 48.9% (110,922)

4.34: East Renfrewshire Ie 33% (24,287) Na 67% (41.690)

East Dunbartonshire: 61% (Ie 30,624) Na 39% (48,314)

4.3o: Aberdeen: Ie 59,390 Na 84,000

Dumfries and Galloway: Ie 36,614 Na 70,039

Angus: Ie 35,044 Na 45,192

Y sylwebyddion wedi disgwyl i Falkirk, o leia’, fod o blaid Ie.

4.18: Falkirk: Ie 47% (50,489)  Na 53% (58,030)

4.17am: Stirling: Ie 60% (25.010)  Na 40% (37,153)

4.11am: Canol Lothian:  Ie – 44% (26,370), Na – 56% (33,972)

4.09am: West Dunbartonshire: Ie 54% (33,720) Na – 46% (28,776)

3.55am: Dundee – Ie 57% (53,620), Na 43% (39,880)

Y canlyniad cyntaf i fynd o blaid ‘ie’. A oes cyfle i ‘ie’ ad-ennill tir?

3.54am: Renfrewshire: Ie – 47% (55,466), Na – 53% (62,067).

3.45am: Mae Alex Salmond wedi ei weld gan y cyfryngau am y tro cyntaf ers dechrau cyhoeddi’r canlyniadau – ac nid oedd yn edrych yn arbennig o hapus wrth adael maes awyr Aberdeen er mwyn hedfan i Gaeredin.

3.42am – Dim ond 86 o bleidleisiau oedd rhwng yr ymgyrch ‘ie’ ac ‘na’ yn Inverclyde, ond fe fydd yn ergyd seicolegol arall i’r ymgyrch ‘ie’ wrth iddynt ddechrau ail-adeiladu yfory.

3.36am: Inverclyde: Ie – 49% (27,243) Na – 51% (27,329)

3.31am: Ymddangos bod y larwm tân wedi canu yn Dundee am y trydydd tro…

3.28am: Mae’r ymgyrch ‘Ie’ yn parhau yn ffyddiog eu bod nhw wedi cipio Glasgow – serch hynny nid yw’n ymddangos y bydd y canlyniad hwnnw ar ei ben ei hun yn arwyddocaol yn y pen draw.

3.26: Dywed Iolo Cheung: “”Mi fysa ni’n gallu gneud hefo un canlyniad da i Ie ar y funud jyst i gorddi pethau. Fel arall mae’n bosib y bydd y diffyg cwsg ’ma yn dal fyny efo fi …”

3.23am: Nid yw tasg yr ymgyrch ‘ie’ wedi newid cymaint â hynny.

Mae angen 50.2% o’r pleidleisiau sy’n weddill arnynt.

Ardaloedd gyda phoblogaethau bychain sydd wedi cyhoeddi hyd yn hyn.

Serch hynny mae’r sion o’r canolfanau cyfri eraill yn awgrymu’n gryf na fydd hynny’n digwydd.

3.21am: Dywed Patrick Harvie o’r Blaid Werdd yn yr Alban, a oedd wedi cefnogi pleidlais ‘ie’, bod y canlyniad “yn ymddangos yn siomedig”.

“Serch hynny fe fyddai colli egni a symbyliad y bobl sydd wedi ail-gysylltu â gwleidyddiaeth hyd yn oed yn waeth.”

3.17am: Mae’r drafodaeth wleidyddol i raddau helaeth eisoes wedi symud ymlaen i’r oblygiadau i ddatganoli pellach yn yr Alban, Lloegr a Chymru.

A beth fydd yr oblygiadau i’r SNP – a yw Alex Salmond ar fin camu o’r neilltu?

3.11am: Ar hyn o bryd, mae Ie ar 42.15% o’r bleidlais, a Na ar 57.85%.

3.06am: Mae’r larwm dân wedi canu yn Dundee unwaith eto!

Mae’r cyffro wedi gollwng allan o’r noson fel aer o falŵn, felly dyma un o’r pethau mwyaf diddorol sy’n digwydd ar hyn o bryd.

3.02am: Braf clywed ychydig o Aeleg o’r diwedd o Ynysoedd y Gorllewin.

Eilean Siar: Ie – 46.6% (9,195), Na – 53.4% (10,544)

Unwaith eto, mae’n arwydd drwg i’r ymgyrch ‘ie’, a oedd disgwyl iddynt ennill yno. Roedd 86.2% wedi pleidleisio.

2.54am: Mae ‘Wings Over Scotland’, y blog a fu mor ganolog yn yr ymgyrch ‘ie’, wedi cyhoeddi ei fod yn credu eu bod nhw wedi colli’r ras.

“Mae ein cydwladwyr wedi ein gadael ni i lawr,” meddai.

2.53am: Mae’r ymgyrch ‘na’ yn honni eu bod nhw wedi ennill Fife. Nid oedd hwnnw yn ardal yr oedd ‘ie’ wedi disgwyl gwneud yn arbennig o dda ynddi.

2.50am: Mae Roger Scully wedi rhoi sglein ar bethau i’r ymgyrch ‘ie’, gan nodi bod y bleidlais ‘ie’ wedi gwneud yn well yn Shetland na wnaeth yr ymgyrch ‘ie’ o blaid datganoli yno yn 1979.

2.48am: Dywed Iolo Cheung: “Turnout Aberdeen o 81.7% ydi’r ail isaf hyd yn hyn, ar ol Glasgow – maen nhw’n ddau le yr oedd Ie angen anelu i ennill os oedden nhw am geisio sicrhau annibyniaeth.”

2.47am: Toreth o niferoedd pleidleiswyr ar eich cyfer chi:

East Lothian – 87.6%

Perth&Kinross – 86.9%

Dumfries & Galloway 87.5%

East Renfrewshire – 90.4%

Falkirk – 88.7%

East Ayrshire – 84.5%

Stirling – 90.1%

South Ayrshire – 86.1%

Glasgow – 75%

Aberdeen – 81.7%

2.42am: Shetland – Ie: 36% (5669) Na: 64% (9951)

Unwaith eto, doedd dim disgwyl i’r ymgyrch ‘Ie’ wneud yn dda yn fan hyn.

2.40am: Dywed yr Athro John Curtice bod disgwyl bod rhwng 84-5% wedi pleidleisio heddiw – record newydd i refferendwm neu etholiad yn y Deyrnas Unedig.

2.37am: Rhagor o newyddion drwg i’r ymgyrch ‘ie’, sef bod ‘na’ ar y blaen yn y Western Isles.

2.34am: A yw’r ymgyrch ‘ie’ wedi rhoi’r ffidil yn y to? Awgrym eu bod nhw bellach yn briffio y byddai 45% o blaid annibyniaeth yn ganlyniad gwerth chweil.

2.31am: Ymddangos bod Eilean Siar wedi llwyddo i guro’r niwl ac y bydd canlyniad o fewn chwarter awr.

2.29am: Dywed Iolo Cheung: “Tipyn o son fod Glasgow’n mynd yn dda iawn i’r ymgyrch Ie – gan mai honno ydi’r ardal mwyaf niferus o bell ffordd, oes ’na lygedyn o obaith?

“O ystyried pa mor ffafriol mae’n edrych i Na ar hyn o bryd, byddai angen buddugoliaeth mawr iawn ar yr Ie yn Glasgow er mwyn cadw’r gobaith yna’n fyw – ond dydi’r turnout (gymharol) isel yno ddim yn helpu.”

2.28am: Mae’r newyddiadurwr Nick Rougvie yn dweud fod sion bod Caeredin wedi pleidleisio 62% yn erbyn annibyniaeth. Serch hynny, mae’n dyddiau cynnar yn y cyfri yno.

2.21am: Dywed Iolo Cheung: “Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, Chris Bryant, newydd drydar yn syth ar ôl canlyniad Orkney ei fod o’n mynd am ei wely. Dydi hi ddim yn edrych fel y bydd ’na sioc yn ei ddisgwyl pan mae’n deffro, fel mae pethau’n edrych ar hyn o bryd.”

2.20am: Mae yn bell ar ôl 2am ac mae 98.7% o’r bleidlais eto i’w gyhoeddi. Ymddengys y bydd y cyfri yn mynd ymlaen yn sylweddol hwyrach na’r disgwyl, a bod yr amcangyfrifon gwreiddiol wedi bod braidd yn rhy optimistaidd o ystyried y nifer uchel sydd wedi pleidleisio.

2.17am: Mae 87.4% wedi pleidleisio yn y Borders. Unwaith eto, pleidlais uchel mewn ardal sydd ddim yn ffafrio annibyniaeth.

2.12am: Mae’n debyg mai e-sigaret achosodd i’r ganolfan gael ei wagio yn y cyfri yn Dundee.

2.09pm: Mae 91% wedi pleidleisio yn East Dunbartonshire – ardal arall gyda pleidlais mawr, ardal arall lle mae disgwyl i ‘na’ wneud yn dda.

2.04pm: Orkney yn dweud ‘Ie’ – 33% (4883) ‘Na’ – 63% (10,004)

Doedd yr ymgyrch ‘ie’ ddim yn disgwyl ennill fan hyn.

2.01am: Mae’r academydd Simon Brooks wedi trydar “na fydd hi heno. Ond bydd yr Alban yn annibynnol erbyn 2030, ac mae amserlen felly yn well i Gymru.”

2pm: Bydd rhaid yn dweud ei fod wedi achub yr undeb – ond mae’n ymddangos y bydd etholaeth Gordon Brown, Kirkcaldy, yn pleidleisio o blaid annibyniaeth.

1.56am: Dywed Iolo Cheung yng Nghaeredin: “Cynghorydd SNP Morningside, Sandy Howat, wedi cyfaddef ei fod yn ‘reit siomedig’ gyda chanlyniad Clackmannanshire. Ond ategu’r pwynt mai cyngor gymharol fach yw hi, ac y gallwn nhw gau’r bwlch mewn llefydd eraill.”

1.52am: Dim ond 75% sydd wedi pleidleisio yn Glasgow. Unwaith eto, mae’n hynod o uchel o’i gymharu ag unrhyw etholiad arall. Ond ymddengys bod y bleidlais yn is mewn ardaloedd yr oedd yr ymgyrch ‘ie’ yn dibynnu arnynt.

1.50am: Mae 84.5% wedi pleidleisio yn East Ayrshire, 86.1% yn South Ayrshire, ac 87.6% yn East Lothian.

1.47am: Mae arweinydd Ceidwadwyr yn yr Alban, Ruth Davison, wedi awgrymu y gallai ‘na’ ennill o dros 10%.

1.46am: Mae 90.1% wedi pleidleisio yn Stirling. Dyma sedd arall y byddai ‘Ie’ wedi gobeithio ei ennill – mae’r bleidlais mewn mannau eraill yn awgrymu y bydd hynny’n dalcen caled ar hyn o bryd.

1.43am: Mae gweithwyr cyfri Dundee wedi cael dychwelyd i’r adeilad.

1.41am: Dywed Iolo Cheung o Gaeredin: “Tydi niferoedd Clackmannanshire ddim yn sylweddol yng nghyd-destun y refferendwm – ond mae’n ergyd seicolegol enfawr i’r ymgyrch Ie golli yn rhywle oedd yn cael ei ystyried yn gadarnle, mor gynnar yn y noson.

“Y teimlad yn eithaf sicr ar hyn o bryd na fydd yr Alban yn wlad annibynol bore fory. Wnaeth y bobl Na yn y neuadd ddim hyd yn oed drafferthu i ddathlu rhyw lawer!”

1.39am: Mae’r SNP yn awgrymu bod yr ymgyrch ‘Ie’ wedi colli West Lothian, cyngor arall lle’r oedd disgwyl iddynt wneud yn dda.

1.34: Mae Clackmannasire yn cynrychioli 0.9% o boblogaeth yr Alban yn unig. Ond mae methiant ‘Ie’ yno yn awgrymu nad ydyn nhw’n debygol o wneud cystal ar draws yr Alban.

1.29am: Clackmannasire – Ie  – 46% (16, 350) Na – 54% (19, 036)

Canlyniad ofnadwy i’r ymgyrch ‘ie’ ar ddechrau’r noson.

1.27am: Mae’r larwm dân wedi canu yn y cyfri yn Dundee. Pawb yn gadael yr adeilad.

1.26am: Dywed Ladbrokes bod Clackmannanshire yr ail lle fwyaf tebygol i weld y canran uchaf o bleidleisiau ‘ie’. Os yw ‘ie’ wedi colli yno, fe allai fod yn ddiwrnod du iddynt.

1.21am: Bydd y canlyniad cyntafClackmannanshire – mewn pum munud.

1.20am: Rhagor gan Iolo Cheung yng Nghaeredin: “Mae Osian Elias yn un o’r Cymry sydd yn gwylio’r canlyniadau yng nghanol Caeredin heddiw, ac fe ddywedodd wrthai yn gynharach fod y dafarn mae ynddi’n llawn cefnogwyr Ie o bob math o lefydd – Cymru, yr Alban, Gwlad y Basg, Bavaria, Friesland, Iwerddon, De Tyrol, Catalunya a mwy.

“’Mae pawb yn hynod o bositif yma, mae ’na awyrgylch o ddathlu,’ meddai Osian. ‘Fi’n meddwl bod pawb yn falch iawn o’r ymgyrch a’r ymdrech mae pawb wedi’i roi i mewn.’

“Wedi deud hynny nid pawb sy’n gallu gweld y sgrin fawr gyda’r canlyniadau, yn ôl Osian – ac mae’r newyddion yn awgrymu mai noson y Na fydd hi ar hyn o bryd.”

1.16am: Mae Ross Hawkings, un o ohebwyr y BBC, yn awgrymu y bydd Swydd Aberdeen, lle mae Alex Salmond yn ASA, yn pleidleisio ‘na’. Fe fyddai hynny yn esbonio pam mae Prif Weinidog yr Alban wedi penderfynu peidio teithio yno.

1.13am: Mae disgwyl datganiad o Clackmannanshire yn fuan. Os nad yw ‘ie’ yn ennill fan hyn, ymddengys yn anhebygol iawn y bydd yr Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth.

1.11am: Mae 88% wedi pleidleisio yn West Dunbartonshire, sy’n fwy tebygol o ochri gyda ‘na’.

1.09am: Mae’r ymgyrch Ie wedi datgan eu bod nhw’n disgwyl ennill Glasgow o drwch blewyn, gyda 54% o’r bleidlais.

Mae’n ymddangos ar hyn o bryd na fydd hynny yn ddigon i wrth-wneud y bleidlais ‘na’ mwy sylweddol o Gaeredin a rhannau eraill o’r wlad.

1.04am: Dywed Iolo Cheung o Gaeredin: “Rydan ni’n disgwyl saith cyngor i gyhoeddi canlyniadau mewn rhyw ychydig dros dri chwarter awr.

Y gred oedd fod pedwar ohonyn nhw – Eilean Siar, Inverclyde, Orkney, a Dwyrain Lothian – am bleidleisio Na, tra bod Gogledd Lanarkshire, Perth & Kinross, a Moray yn Ie.

Y newyddion da i’r Ie? Eu tair cyngor ‘nhw’ ydi’r tair gyda’r poblogaethau mwyaf.

Ond fe ddylwn nhw felly fod ar y blaen ar ôl y canlyniadau hynny, felly os nad ydyn nhw fe ddylen nhw boeni o ddifri.”

1.03am: Mae 78.8% wedi pleidleisio yn Dundee City – neu ‘Yes City’ fel y’i gelwir. Mae hynny’n syfrdanol o uchel, ond yn is na ambell i ardal arall sydd yn gryfach o blaid ‘na’.

A yw hynny’n cefnogi dadl ‘YouGov’ bod pleidleiswyr ‘na’ wedi bod yn fwy parod i fynd i bleidleisio?

1am: Mae’n debyg y bydd y Frenhines yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig, nid llafar, prynhawn yfory am y canlyniad.

12.55am: Dywed Dennis Canavan, Cadeirydd yr ymgyrch ‘Ie’ ei fod yn parhau’n obeithiol, ac nad yw’n barod i addef eu bod nhw wedi colli.

12.53am: Dywed Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd ei fod yn “ffyddiog fod yr Alban wedi pleidleisio ‘na’ heddiw. Un peth sy’n glir, sef nad yw’r status quo wedi ei gynnig heddiw.”

12.52am: Mae 87.4% wedi pleidleisio yn Inverclyde, 87.3% yn Renfrewshire.

12.51pm: Rhagor o wybodaeth am y twyll honedig – roedd deg o bobol yn Glasgow wedi cyrraedd y blychau pledleisio a chael gwybod bod rhywun eisoes wedi pleidleisio yn eu henw nhw. Mae’r heddlu wedi meddiannu pleidleisiau o’r cyfri yn Glasgow a mynd â nhw ymaith fel tystiolaeth.

12.45am: Mae Sky News yn dweud bod cyhuddiadau o dwyll yn Glasgow, wrth i bobol gyrraedd i bleidleisio a chlywed eu bod nhw eisoes wedi gwneud hynny.

12.44am: Oes yna beryg i David Cameron pe bai’r ymgyrch ‘na’ yn ennill yn hawdd? Fe fyddai yn awgrymu ei fod wedi mynd i ormod o banig ynglyn ag un pol piniwn, ac wedi gaddo gormod i’r Albanwyr. Mae rhai ASau Ceidwadwol eisoes yn feirniadol ohono.

12.38am: Rhagor o newyddion drwg i’r ymgyrch ‘Ie’ – mae ‘Better Together’ yn hyderus o ennill yn Falkirk, lle’r oedd ‘Ie’ wedi gobeithio mynd â hi yn weddol gyffyrddus.

12.35am: Dywed Joe Pike, un o newyddiadurwyr ITV, bod Better Together wedi cynnal arolwg o’r pleidleisiau ac yn hyderus eu bod nhw’n mynd i ennill.

12.31am: Mae 88.6% wedi pleidleisio yn North Lanarkshire. Mae disgwyl y canlyniad yno tua 2am, er gwaethaf sion y bydd y canlyniad o fewn chwarter awr.

12.30am: Roedd disgwyl i Alex Salmond wneud ymddangosiad yn y cyfri yn Aberdeen, ond mae bellach wedi penderfynu cadw draw, a theithio i Gaeredin yn y bore.

A yw hynny’n arwydd nad yw’n hyderus ynglyn a’r canlyniad?

12.24am: Rhagor gan Iolo Cheung yng Nghaeredin: “Mae ’na dipyn o gynghorwyr a gwleidyddion wedi cyrraedd cyfrif Caeredin bellach, a dw i wedi bod yn sgwrsio ag ambell un ohonyn nhw.

“Fe ddywedodd Denis Dixon, cynghorydd SNP yn ward Sighthill/Gorgie Caeredin, ei fod o’n teimlo bod pethau’n dal yn rhy agos a bod lot i fynd eto cyn y byddwn ni’n gwybod y canlyniad yn glir.

“Ar y llaw arall, roedd y cynghorydd Democrat Rhyddfrydol dros ward Almond, Alastair Shields, yn fwy hyderus gan ddweud ei fod yn darogan y byddai Na yn ennill y refferendwm o tua 54-46%, gyda Chaeredin yn gymharol gyfforddus o blaid Na.

“Mae’n sicr yn teimlo fel bod yr ymgyrchwyr Na mewn hwyliau gwell na’r rhai Ie yn fan hyn beth bynnag.”

12.23am: Dywed Libby Brooks o’r Guardian bod yr ymgyrch ‘Ie’ yn hyderus yn Glasgow. Ond nid yw’n amlwg eto a fydd gweddill y wlad yr un mor gefnogol.

12.20am: Yr awgrym yw y bydd y canlyniadau cyntaf yn ein cyrraedd ni o fewn yr hanner awr nesaf.

12.13am: Mae 83.7% wedi pleidleisio yn Orkney, 88.6% yn Clackmannanshire.

12.10am: Mae yna adroddiadau mai North Lanarkshire fydd y cyntaf i ddatgan y bleidlais, a bod ‘ie’ fymryd ar y blaen yna. Mae hynny’n newyddion da i ‘ie’, am nad yw North Lanarkshire yn un o’u cadarnleoedd.

12.06am: Felly beth ydyn ni’n ei wybod, dwy awr ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau?

Mae YouGov yn darogan buddugoliaeth i ‘Na’ – ac wedi gwneud yn gyson drwy gydol yr ymgyrch, heblaw am un pôl piniwn.

Mae’r pleidleisiau post yn gryf o blaid ‘Na’ – ond gan eu bod nhw’n tueddu i ddod gan bobol hŷn a chyfoethocach, efallai nad yw hynny’n gymaint o sioc.

Serch hynny, mae’r ymgyrch ‘na’ yn darogan buddugoliaeth, tra bod yr ymgyrch ‘ie’ braidd yn nerfus.

12.01am: Mae adroddiadau hefyd y bydd y Frenhines yn gwneud datganiad yfory, beth bynnag y canlyniad.

12am: Rhagor o fanylion am araith David Cameron yfory. Mae’n debyg y bydd yn canolbwyntio ar Loegr yn hytrach na’r Alban.

Efallai ei fod yn gobeithio osgoi beirniadaeth gan ei ASau ei hun drwy gynnig rywfaint o ddatganoli i Loegr, neu ei dinasoedd, i wneud yn iawn am addo cymaint i’r Alban? Cawn weld.

11.57pm: Dywed Iolo Cheung yng Nghaeredin: “Wedi cerdded rownd mwy o fyrddau Caeredin, ac er bod ’na ambell un efo mwy o bapurau Ie rwan mae gan y rhan fwyaf dal fwy o rai Na. Caeredin i bleidleisio’n reit soled yn erbyn annibynniaeth felly, o beth wela i ar hyn o bryd.”

11.56pm: Soniwyd rhai oriau yn ôl y byddai Clackmannanshire yn arwydd da iawn o bwy sydd ar y blaen. Os nad yw ‘ie’ yn ennill fan yna, fe fydd yn amen arnynt.

Wel, mae un o newyddiadurwyr y Daily Mail (sydd, cofiwch, wedi dangos gogwydd tuag at yr ymgyrch ‘na’ yn ystod y misoedd diwethaf) yn honni bod ‘na’ ar y blaen yno.

Mae’n debygol serch hynny bod pleidleisiau post, sy’n cael eu cyfrif gyntaf, yn dod yn bennaf gan bleidleiswyr hŷn, sy’n tueddu, yn ôl y polau piniwn, i gefnogi pleidlais ‘na’.

11.51pm: Mae adroddiadau y bydd y Prif Weinidog yn gwneud ‘araith cyfansoddiadol o bwys’ bore yfory os bydd pleidlais ‘na’ heno.

Sut fydd ASau Ceidwadol yn teimlo am hynny?

11.46pm: Dywed llywydd YouGov, Peter Kellner, ei fod yn credu bod mwy o gefnogwyr ‘na’ wedi pleidleisio na ‘ie’. Roedd ofn annibyniaeth yn rym cryfach ymysg y pleidleiswyr ‘na’, na’r dymuniad am annibyniaeth ymysg pleidleiswyr ‘ie’, meddai.

Os yw YouGov yn anghywir, bydd hynny oherwydd ei heb lawn werthfawrogi y bleidlais ‘na’, meddai.

11.38pm: Dywed Iolo Cheung sydd yn y cyfri yng Nghaeredin: “Mae wedi prysuro tipyn yng nghyfrif Caeredin rwan, gyda bron pob bwrdd wrthi’n sortio a chyfri papurau.

“O edrych yn sydyn o gwmpas y byrddau, mae hi’n edrych yn dipyn agosach na’r pleidleisiau post oedd allan yn gynharach, on mae ’na fwy o rai Na – ’swn i’n dyfalu tua 60% o’u plaid nhw o’r rhai welais i. Mwy o focsys yn cyrraedd o hyd.”

11.36pm: 90% o bleidleisiau post wedi eu dychwelyd yng Nghaeredin. Os yw ’na’ ymhell ar y blaen ymysg y pleidleisiau hynny, fel y mae nifer sydd yn y cyfri wedi ei awgrymu, fe fyddai yn ergyd i ‘ie’. Does dim rhaid i ‘ie’ ennill Caeredin, ond rhaid dod yn weddol agos ati.

11.33pm: Os ydych chi’n siomedig gyda’r posibilrwydd y gallai yr ymgyrch ‘na’ ennill, codwch eich calonnau gyda’r blog yma – ‘Dim annibyniaeth i’r Alban –peth da i Gymru?’

11.27pm: Mae 95% o bleidleisiau post East Lothian, 93% South Ayrshire, a 95% yn Dumfries wedi eu dychwelyd.

11.24pm: Mae Dennis Canavan, Cadeirydd yr ymgyrch ‘Ie’ wedi dweud nad yw’n derbyn bod ‘Na’ wedi ennill. Mae ffordd pell iawn i fynd, meddai.

11.21pm: Mae’r Athro James Mitchell o Brifysgol Glasgow wedi dweud y bydd ‘trwbwl’ os bydd gwleidyddion yn brysio i roi grymoedd newydd i’r Alban ar ol pleidlais ’na’.

11.17pm: Mae Ladbrokes yn cynnig ods o 2/1 y bydd Alex Salmond yn ymddiswyddo o fewn 48 awr i’r canlyniad.

11.16pm: Mae’r ymgyrch ’na’ yn darogan ‘ie’ 43% ’na’ 57%.

11.13pm: Mae yna fellt a tharannau dros Gaerdydd a Llundain nawr. Dwn i ddim a oes ryw arwydd yn hynny…

11.10pm: Serch hynny mae yna awgrym bod ‘ie’ ar y blaen ymysg y pleidleisiau post yn Dundee.

11.09pm: Mae tudalen flaen y Times yfory yn dweud bod yr ymgyrch ’na’ yn darogan buddugoliaeth.

11.06pm: Dywed Graham Henry o’r Western Mail bod yr ymgyrch ‘ie’ yn edrych braidd yn anhapus yng Nghaeredin ar hyn o bryd, a bod sïon bod y pleidlais post yn mynd 9-1 yn eu herbyn nhw.

Dyna gadarnhau argraff ein gohebydd Iolo Cheung.

11.04: Mae papur newydd Newcastle-upon-Tyne, y Journal, wedi galw ar arweinwyr y prif bleidiau i gynnig ‘addewid’ yn yr un modd a’r hwnnw a gafodd yr Alban i ogledd Lloegr.

Mae’r AS Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb, hefyd yn anhapus, gan ddweud nad yw’r blaid yn fodlon gyda’r modd y mae’r Prif Weinidog wedi gweithredu wrth geisio ennill pleidlais ‘na’.

10.59pm: Mae Dan Hodges o’r Telegraph wedi ‘galw’ y refferendwm, gan ddweud mai ‘na’ sydd wedi ennill.

10.54pm: Mae Alistair Darling yn “gynyddol hyderus” y bydd pleidlais ‘na’. Serch hynny, dywed Laura Kuenssberg o Newsnight bod rhai yn yr ymgyrch ‘na’ yn parhau i ddweud eu bod nhw’n wyliadwrus.

10.53pm: Dywed Iolo Cheung: “Y bocsys cyntaf o orsafoedd pleidleisio Caeredin nawr yn cael eu cyfri – dwi’n sefyll wrth fwrdd Gorllewin Caeredin gyda’r bocs cynta’, ac roedd ’na lot mwy o bapurau Na nag Ie yn yr un yna.”

10.45pm: Mae Llywydd YouGov yn dweud ei fod 99% yn siwr bod ’na’ wedi mynd a hi.

Maent yn credu bod ’na’ wedi llwyddo i sicrhau bod eu cefnogwyr yn mynd i’r polau pledleisio yn well na ‘ie’.

10.44pm: Y nifer uchaf i bleidleisio mewn unrhyw refferendwm yn y Deyrnas Unedig oedd y 81.1% a bleidleisiodd yn refferendwm ‘Good Friday’ Gogledd Iwerddon. A fydd y bleidlais heddiw yn uwch?

10.37pm: Mae Sky yn dweud bod ffynhonnell o Better Tegether wedi dweud bod ‘ie’ yn debygol o ennill Dundee. Serch hynny mae’n nhw’n dawel hyderus o ennill yn genedlaethol.

10.36pm: Iolo Cheung yng Nghaeredin: “Yn anffodus doedd na’m ‘exit poll’ heno, felly mi fydd rhaid i chi wneud y tro efo’r vox pop sydyn nes i ar strydoedd ardal Murrayfield yng Nghaeredin yn gynharach – 9 Ie, 9 Na, ac un ddynes oedd ar y ffordd i bleidleisio ond heb benderfynu!

“Wnaeth o ddim cymryd hir i sbotio gwleidydd Cymreig chwaith, wrth i mi daro mewn i Adam Price ac ambell Bleidiwr arall oedd wrthi’n annog pobl i fynd allan i bleidleisio gyda chriw o aelodau Ie Albanaidd.

“Dwi’n meddwl mod i wedi codi’u calonnau nhw rhywfaint pan nes i ddatgelu canlyniadau fy arolwg byr – gan fod Murrayfield mae’n debyg yn ardal fwy Na.

“Nes i hefyd daro mewn i griw o ymgyrchwyr Better Together – roedden nhw’n dawel hyderus, ond yn dweud y byddai Alban annibynnol yn eu poeni’n fawr.

“Pan ofynnais i un, ar raddfa o un i ddeg, faint fyddai’n poeni petai’r Alban yn pleidleisio Ie, fe ddywedodd o ’naw’ – ac fe ddywedodd un arall y byddai’n debygol o symud i ffwrdd o fewn blwyddyn petai nhw’n mynd yn annibynnol.”

10.32pm: Mae YouGov newydd gyhoeddi eu harolwg olaf, sy’n awgrymu y bydd 54% yn pleidleisio ‘Na’ a 46% ‘Ie’.

10.27pm: Nid yw newyddiadurwyr yn cael adrodd ar y canlyniad nes bod nifer y pleidleisiau wedi eu cyfri.

Serch hynny maen nhw’n gallu gweld pa bentwr sydd fwyaf – ac fe fydd awgrym wrth i’r noswaith fynd yn ei blaen pwy sydd ar y blaen.

10.21: Mae East Lothian yn amcangyfrif bod 80% wedi pleidleisio.

Mae’r Athro Roger Scully o Adran Gwleidyddiaeth Caerdydd yn codi pwynt pwysig. Os yw’r nifer sydd wedi pleidleisio mor uchel â hynny, a oes peryg na fydd ymdrechion mawr yr ymgyrch ‘ie’ i sicrhau bod pawb yn pleidleisio yn cael gymaint â hynny o effaith?

10.17pm: Dywed James Forsyth o’r Spectator bod ‘Better Together’ yn hyderus iawn eu bod nhw wedi ennill, a hynny o ganran uwch na’r disgwyl.

10.16pm: Mae Sky yn honni bod 90% wedi pleidleisio yn Dundee – ‘Yes City’.

10.13pm: Mae David Maddox, un o ohebwyr gwleidyddol y Scotsman, yn dweud ei fod dan yr argraff bod Na tua 55% ac Ie 45%.

Does neb yn gwybod eto, wrth gwrs.

10.06pm: Mae YouGov wedi cyhoeddi arolwg… un yn ymwneud â’r etholiad cyffredinol, sy’n rhoi Llafur ar 35% a’r Ceidwadwyr ar 33%.

Os yw’r Alban wedi pleidleisio o blaid annibyniaeth, fe allai’r ffigyrau rheini newid wrth gwrs.

Bydd arolwg olaf am y refferendwm am 10.30pm.

10.04pm: Nawr bod y blychau pleidleisio wedi cau bydd sylwebwyr ar ddwy ochr y ddadl, yn ogystal a’r ymgyrchoedd eu hunain, yn gallu siarad yn llawer mwy agored am sut y mae’r ymgyrch wedi mynd.

Efallai y bydd ryw awgrym hefyd o bwy sydd wedi mynd â hi.

10pm: *Dong!* Er nad oes Big Ben fan hyn. Mae’r gorsafoedd pleidleisio wedi cau – tua 5,500 ohonynt ledled y wlad.

9.59pm: Bydd y blychau pleidleisio yn cau mewn munud. Mae disgwyl i’r canlyniadau cyntaf ddechrau llifo i mewn tua 1.30am-2am o’r broydd canlynol:

North Lanarkshire, Perth and Kinross, East Lothian, Moray, Inverclyde, Eilean Siar, ac Orkney.

Fe y soniwyd eisoes fe allai’r niwl trwchus atal y cyfri mewn rhai mannau pell o bobman.

9.50pm: Iolo Cheung yng Nghaeredin: “Mae tipyn o Gymry wedi bod fyny yn yr Alban yn helpu gyda’r ymgyrchu’n barod, ond heddiw mi ges i gwmni dau grŵp o Gymry Cymraeg oedd yn teithio i fyny fel rhyw fath o ’dwristiaid refferendwm’.

“Roedd ’na dipyn o gyffro ynglŷn â bod yn yr Alban ar drothwy diwrnod fydd yn un hanesyddol pa bynnag ffordd yr aiff hi – gallwch ddarllen rhai o’u sylwadau yn yr erthygl hon.”

9.47pm: Tra bod niwl yn amgáu rhai rhannau o’r Alban – mae yna fellt a tharannau yng ngogledd Cymru. Arwydd o’r tywydd gwleidyddol i ddod dros y dyddiau nesaf?

9.34pm: Mae 87% o’r pleidleisiau post yn Glasgow wedi eu dychwelyd. Mae hynny’n awgrymu y bydd nifer y pleidleisiau ledled y wlad yn uchel dros ben.

9.32pm: Mae tyrfa mawr o gefnogwyr ‘ie’ wedi ymgasglu yn George Square yn Glasgow ac o flaen Senedd yr Alban yng Nghaeredin.

9.29pm: Mae campfa’r Emirates yn Glasgow lle bydd y cyfri yn digwydd yn agored i’r cyhoedd heno. Felly os ydych chi yn yr Alban (ac ymddengys bod hanner poblogaeth Cymru yno) ac eisiau gweld darn bach o hanes yn cael ei greu, ewch draw yno am dro.

9.26pm: Mae Newyddion RTE yn honni y gallai’r nifer sydd wedi pleidleisio yn y refferendwm fod mor uchel a 90%.

9.21pm: Mae yna adroddiadau gan y BBC bod rhai pleidleiswyr wedi bod yn cusanu eu papurau pledleisio. Gobeithio na fydd unrhyw finlliw yn difetha’r bleidlais. Dim ond croes sy’n cyfri, bobl.

9.17pm: Dim ond tri chwarter awr sy’n weddill nes bod y gorsafoedd pleidleisio’n cau a’r cyfri yn dechrau.

Yng nghampfa yr Emirates yn Glasgow mae 600 o bobl a fydd yn cyfri wedi dechrau cymryd eu seddi. Bydd dros 5,000 yn cyfri ledled yr Alban.

9.10pm: Gan Iolo Cheung o Gaeredin:

“Newydd siarad â newyddiadurwr o un o bapurau dyddiol yr Alban – mae o’n credu y gwnaiff Glasgow bleidleisio ‘Ie’ – ond y byddai’n rhaid iddynt ennill un ai Caeredin neu Aberdeen hefyd os ydyn nhw am ennill y dydd.

“Dywedodd fod llawer o gefnogwyr Ie wir yn synnu at ffigyrau’r polau piniwn, oherwydd nad ydyn nhw’n gallu ffeindio llawer o bobl o gwbl sydd yn pleidleisio Na.

“Ac mae’n amau na fydd y canlyniad cweit mor agos ac mae’r polau’n eu hawgrymu – ond yn dweud nad oes ganddo syniad i ba ffordd yr aiff hi.”

9.04pm: Gan Iolo Cheung o Gaeredin:

“Newydd fod yn siarad â newyddiadurwr o sianel deledu RAI yn yr Eidal – mae’n ymddangos fod ymdeimlad eithaf cryf o blith gwleidyddion yno yn erbyn annibynniaeth yr Alban.

“Dywedodd y newyddiadurwr fod nifer o aelodau seneddol wedi arwyddo datganiad yn dweud nad oedden nhw o blaid annibynniaeth i’r Alban, gan awgrymu y byddai’n dadsefydlogi Ewrop.

“Y prif reswm am hyn yw bod llawer yn yr Eidal yn amheus o unrhyw fath o genedlaetholdeb – mae ganddyn nhw blaid y Lega Nord sydd yn ceisio cael hunan-reolaeth i ranbarthau gogleddol y wlad.

“Ond maen nhw’n blaid asgell dde cadarn (ac yn eistedd gyda UKIP yn Ewrop), yn wahanol i’r SNP.”

8.56pm: Dyma ragor gan ein gohebydd yng Nghaeredin, Iolo Cheung, sydd wedi dod ar draws rhai wynebau cyfarwydd yn y brifddinas:

“Doedd dim llawer o arwydd o gwbl fod refferendwm yn digwydd wrth edrych o gwmpas canol Caeredin heddiw – yn sicr doedd ’na ddim cymaint o sticeri, baneri a phosteri Ie a Na ag yr oeddwn i wedi’i ddisgwyl,” meddai.

“Roedd ’na un ffens yng nghanol y ddinas ble roedd cefnogwyr Ie wedi sticio negeseuon iddi’n dweud beth oedden nhw’n dymuno ei weld mewn Alban annibynnol – ac wrth i mi dynnu llun ohono, dyna lle’r oedd Marian Delyth wrth fy ymyl yn gwneud yr union yr un peth!

“Fe fuodd hi yng Nglasgow ddoe pan oedd hi llawer mwy byrlymus – ac fe fydd disgwyl mwy o fwrlwm yno fory, pan fydd un ymgyrch yn dathlu buddugoliaeth.”

8.55pm: Mae’r blychau pleidleisio cyntaf wedi cyrraedd y cyfri’ yng Nghaeredin. Ni fyddan nhw’n cael eu hagor nes 10pm.

8.53pm: Mae yna un arolwg olaf heno – un YouGov sy’n holi pobl sydd wedi bwrw eu pleidlais, a ddylai roi ryw syniad i ni os yw’r ymgyrch ‘ie’ wedi ennill unrhyw dir yn ystod y 24 awr olaf.

Fe fydd yr arolwg yn cael ei gyhoeddi am 10pm, wrth i’r gorsafoedd pleidleisio gau.

8.45pm: Ymddengys nawr bod amheuaeth ynglŷn â’r ‘Plan B’ i gael y pleidleisiau o ynysoedd y Gorllewin. O dderbyn na allai awyren hedfan drwy’r niwl, y cynllun oedd y byddai cwch yn cwblhau’r daith erbyn tua 5am. Ond mae’n ymddangos y gallai’r niwl fod yn rhy drwchus i hynny, hefyd.

Os nad yw’r niwl yn clirio fe allai olygu na fydd y bleidlais derfynol yn hysbys nes ymhell ar ôl y cyhoeddiad disgwyliedig tua 6am yfory.

8.38pm: Mae Alex Salmond wedi bod yn siarad âr wasg wrth grwydro Swydd Aberdeen.

“Rydw i newydd gwrdd â milwr sydd heb bleidleisio ers 24 mlynedd, a menyw 61 oed sydd newydd bleidleisio am y tro cyntaf yn ei hoes,” meddai.

“Am y tro cyntaf mewn amser hir, neu y tro cyntaf erioed, mae’r bobl yma’n credu fod yna rywbeth werth pleidleisio drosto.

“Nid ydynt yn pleidleisio am blaid wleidyddol neu am wleidydd, ond yn hytrach am y syniad bod modd i ni wella pethau yn ein gwlad ein hunain.”

8.29pm: Fe fydd y gorsafoedd pleidleisio yn cau am 10pm, ond os oes pobl yn y ciw i fynd i mewn fe fyddwn nhw’n cael bwrw pleidlais.

8.26pm: Roedd 63.6% wedi pleidleisio yn refferendwm 79, a 60.2% yn 1997. Mae rhai’n darogan y bydd dros 75% yn pleidleisio heddiw.

Dim ond 77% o’r boblogaeth oedd wedi cofrestru i bleidleisio yn 1997, o’i gymharu â 97% heddiw.

8.06pm: Dyma lun gan Iolo Cheung o’r ganolfan gyfrif yng Nghaeredin.

Fe fydd y gorsafoedd pleidleisio yn cau mewn llai na dwy awr.

7.59pm: Mae ein gohebydd Iolo Cheung wedi cyrraedd canolfan y wasg yng Nghaeredin lle y bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi.

“Dw i wedi cyrraedd y neuadd gyfrif bellach, ond mae’n deg dweud mai fi yw un o’r cyntaf yma – dydi hi ddim yn llawn iawn ar hyn o bryd,” meddai.

“Serch hynny, mae’n ymddangos fel bod ’na dipyn o newyddiadurwyr rhyngwladol yma’n barod, rhai yn paratoi straeon ond llawer yn edrych fel eu bod nhw jyst yn paratoi am heno.

“Wrth gwrs, mae ’na ddwy awr i fynd nes fod y polau’n cau, felly dw i’n disgwyl gweld y lle’n llenwi o fewn cwpl o oriau – amser i fynd i ffeindio swper.”

7.56pm: Mae Alex Salmond wedi dweud y bydd ‘95% o’r Alban yn fodlon gyda’r canlyniad’. Pwy fydd y 5% arall?

7.51pm: Mae Nate Silver, a lwyddodd i ddarogan canlyniad yr etholiad Arlywyddol yn UDA bron yn gyfan gwbl gywir, wedi datgelu mai camgymeriad oedd dweud nad oedd gan yr ymgyrch ‘Ie’ unrhyw siawns o ennill y bleidlais heno.

7.47pm: Mae swyddog cyfri’ ynysoedd Shetland yn disgwyl y bydd 80% wedi pleidleisio yno erbyn 10pm. Mae 92% o bleidleisiau post wedi eu dychwelyd.

7.43pm: Mae’r Arolwg Ordnans wedi dod i’r casgliad mai pentref nid nepell o ffin Cymru, i’r gogledd-ddwyrain o’r Amwythig, fydd union ganolbwynt y Deyrnas Unedig pe bai’r Alban yn wlad annibynol.

7.40pm: Mae cyd-olygydd y Daily Mirror, Kevin Maguire, yn honni bod Better Together yn credu y bydd 58% yn pleidleisio o’u plaid.

Mae’n bosib wrth gwrs mai corddi’r dyrfoedd yw hyn!

7.38pm: Mae yna sion ar Twitter bod rhai gorsafoedd pleidleisio eisoes wedi cau yn Falkirk oherwydd bod 100% o’r rheini oedd wedi cofrestru eisoes wedi bwrw eu pleidlais. Mae cyngor Falkirk wedi cadarnhau nad yw hyn yn wir.

7.35pm: Dywed Gordon Brown wrth CNN neithiwr fod angen i’r Deyrnas Unedig roi’r gorau i ystyried ei hun yn ‘wladwriaeth canoledig’ ac y dylai, yn hytrach, ffederaleiddio a symud tuag at ‘model Americanaidd o lywodreathu’.

Nid ef yw’r cyntaf i awgrymu hynny, wrth gwrs. Roedd y Cymro Michael D. Jones, a aeth i’r Unol Daleithiau ym 1848 a chael ei urddo’n weinidog ar eglwys Annibynnol Gymraeg yn ninas Cincinnati, Ohio, wedi awgrymu yr union yr un datrysiad yn nhudalennau’r Celt yn yr 1860au.

7.31pm: Mae nifer o’r sylwebwyr sydd fel arfer yn uchel eu cloch iawn am refferendwm yr Alban yn dawel iawn am hyn o bryd.

Pam felly? Am eu bod nhw’n cysgu. Bydd nifer yn effro o tua 8pm nes prynhawn yfory. Gan gynnwys eich annwyl flogwyr.

7.25pm: Mae gan yr Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd erthygl yn y Guardian heddiw yn dadlau y byddai pleidlais ‘ie’ yn gwneud lles i Gymru.

7.17pm: Mae cwestiynau wedi codi ynglyn a’r modd y mae ymgyrchwyr ‘ie’ wedi trin newyddiadurwyr dros y dyddiau diwethaf.

Y canfyddiad ymysg yr ymgyrch ‘ie’ yw bod y cyfryngau prif lif wedi bod yn eu herbyn nhw o’r cychwyn. Ar un olwg, mae’n anodd dadlau yn erbyn hynny, o ystyried bod bob papur newydd namyn dau wedi datgan eu bod yn gwrthwynebu annibyniaeth.

Serch hynny mae’r feirniadaeth wedi ymestyn i ddarlledwyr, sydd i fod yn ddiduedd, hefyd. Cafodd y newiddiadurwyr Nick Robinson ei ‘fwio’ yn helaeth mewn rali gan yr ymgyrch ‘ie’ yn Perth neithiwr.

Cwynodd golygydd gwleidyddol ITV Cymru, Adrian Masters, bod dyn wedi ymddwyn mewn modd bygythiol tuag ato. Cwynodd Tom Bradby yn yr un modd nad oedd wir yn mwynhau’r ymgyrch oherwydd beirniadaeth o du’n ymgyrch ‘ie’.

Serch hynny mae un o drigolion Machynlleth yn credu bod lle gan pobl yr Alban i fod yn anhapus gyda’r modd y mae y cyfryngau wedi adrodd ar yr refferendwm.

Ydych chi’n credu bod yr ymgyrch wedi troi braidd yn gas? Gadewch sylw isod.

7.13pm: Mae Ed Poole, Darlithydd mewn Gwleidyddiaeth Diriogaethol, Prifysgol Caerdydd, yn trydar bod nifer y bobl sy’n mynd i mewn ag allan o orsafoedd pleidleisio fel yr awr frys yng ngorsaf drenau canol Caerdydd.

7.10pm: Mae bwcis Ladbrokes yn dweud bod £30k wedi ei fetio bob awr ar ganlyniad refferendwm yr Alban ers i’r gorsafoedd pleidleisio agor, 79% o’r arian ar ‘Ie’.

7.02pm: Nid yw’r iaith Aeleg wedi cael llawer o sylw yn ystod ymgyrch annibyniaeth yr Alban, wrth i’r ymgyrchwyr ganolbwyntio ar faterion yn ymwneud â chenedlaetholdeb sifig yn hytrach na materion ieithyddol, diwylliannol neu ethnig.

Serch hynny mae Llywodreath yr Alban wedi addo gwrth-droi dirywiad yr iaith pe bai yna bleidlais o blaid annibyniaeth heddiw. Maent hefyd wedi dweud y byddant yn cadw BBC Alba channel and Radio nan Gàidheal fel rhan o Wasanaeth Darlledu Albanaidd a fydd yn cael ei sefydlu wedi annibyniaeth.

Tua 87,000 o drigolion yr Alban sy’n siarad yr Aeleg ar hyn o bryd, ac mae’r cwymp wedi bod yn gyson ers dechrau’r 19eg ganrif – yn wahanol i’r Gymraeg, a welodd ymchwyn o 400,000 yn 1800 i bron i filiwn o ganlyniad i dwf poblogaeth y chwyldro diwydiannol.

Fe fydd yna un hwb i’r iaith heno, hyd yn oed os mai ‘na’ fydd yn mynd â hi – fe fydd canlyniad y refferendwm yn cael ei ddarllen yn yr Aeleg cyn y Saesneg.

6.45pm: Mae Lowri Mair yn trydar: “Wedi gorfod gadael All Bar One yn Glasgow. Ofynon nhw i ni dynnu ein bathodyn ‘yes’. Be ddigwyddodd i ryddid barn?”

6.40pm: Mae’r bleidlais arall yn yr Alban wedi mynd o blaid ‘ie’. Mae Clwb Golff Brenhinol a Hynafol Saint Andrews wedi penderfynu derbyn menywod yn aelodau am y tro cyntaf mewn 260 mlynedd.

6.34pm: Yn y cyfamser mae’r Guardian yn difaru’r ffaith na fydd ‘exit poll’ wrth i bobl adael y blychau pleidleisio. Yn ôl James Ball fe fydd yn hyn golygu na fydd llawer gan y sylwebwyr ar y teledu ac ar-lein i’w drafod wrth i’r blychau pleidleisio gau am 10pm.

6.27pm: Mae papur newydd y Telegraph yn adrodd bod ymgyrch Better Together yn credu bod y polau piniwn yn anghywir, a bod eu canfasio eu hunain yn awgrymu y bydd y bleidlais yn erbyn annibyniaeth “yn y 50au uchel”.

Dylid cofio wrth gwrs bod y Telegraph yn chwyrn o blaid cadw’r undeb, a bod yr ymgyrch ‘Ie’ yn dweud straeon tebyg.

6.19pm: Mae’r BBC wedi bod braidd yn dawedog am ddigwyddiadau’r refferendwm heddiw. Pam felly? Am ei fod yn ddarlledwr, mae wedi ei gyfyngu gan reolau llym sy’n golygu nad yw’n cael adrodd ar ddigwyddiadau’r ymgyrchoedd gwahanol tra bod y blychau pleidleisio ar agor.

6.13pm: Un o’r cyhuddiadau yn erbyn yr ymgyrch ‘na’ yw eu bod nhw wedi dibynnu’r ormodol ar rybuddion negyddol am oblygiadau pleidleisio o blaid annibyniaeth. Honnodd papur newydd y Sunday Herald bod rhai o fewn yr ymgyrch ‘na’ yn cyfeirio at eu hunain fel ‘Project Fear’.

Mae yr ymgyrch ‘na’ wedi rhybuddio y bydd yr Alban yn rhedeg allan o olew, na fyddan nhw’n cael defnyddio’r bunt, y bydd biliau siopa yn codi, y bydd cwmnioedd yn symud i ben arall y ffin, ac hyd yn oed y bydd bwystfil Loch Ness yn symud i Loegr. Neithiwr awgrymodd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban y gallai Ynysoedd Erch a Shetland benderfynu peidio ag ymuno ag Alban annibynol.

Yn sgil pleidlais ‘ie’ fe fydd modd gweld i ba raddau yr oedd y rhybuddion rheini yn wir. Os yw ‘na’ yn ennill y dydd, mae’r ymgyrch yn debygol o adael blas cas yn y geg am flynyddoedd i ddod.

Serch hynny, mae’r ymgyrch ’na’ yn dadlau eu bod nhw’n codi amheuon dilys am oblygiadau nad yw’r ymgyrch ‘ie’ wedi rhoi digon o feddwl iddyn nhw.

6.10pm: Os yw yr Alban yn pleidleisio ’na’, mae pobl y wlad yn debygol o deimlo fel trigolion Ohio ar ôl un o etholiadau arlywyddol yr Unol Daleithiau. Bydd y wlad yn diflannu o’r penawdau, a’r holl newyddiadurwyr a’r gwleidyddion yn pacio eu gêr a throi am adref.

Er, bydd hynny’n rhyddhad i sawl un, me’n siwr!

6pm: Dyma fap diddorol sy’n dangos lle mae pobl yn trydar y geiriau ‘Ie’ a ‘Na’ yn y Deyrnas Unedig. Mae calon Llundain yn curo ‘Na’ yn bennaf, tra bod yr Alban yn fôr o ‘Ie’.

Mae hi’n werth chwyddo allan i weld Ewrop gyfan hefyd – yn enwedig y gefnogaeth i ‘Ie’ ym Marcelona yn Sbaen.

5.52pm: Beth bynnag y canlyniad heno, mae’n debygol o esgor ar fisoedd os nad blynyddoedd o gecru gwleidyddol.

Mae David Cameron, Ed Miliband ac Nick Clegg wedi gaddo grymoedd newydd “helaeth a pharhaol” i’r Alban pe bai’r Sgotiaid yn pleidleisio ‘na’. Maent hefyd wedi dweud y byddant yn cadw fformwila Barnett, sydd yn sicrhau gwraniant uwch y pen i drigolion y wlad honno na unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.

Roedd rhai ASau Ceidwadol eisoes wedi awgrymu bod hyn yn annheg, ac roedd awgrym yn y Telegraph y bydd “cyflafan” yn disgwyl Cameron ar ôl y bleidlais. Yr awgrym yw bod nifer o’r gwleidyddion rhain wedi bod yn cadw’n ddistaw nes ar ôl i’r blychau pleidleisio gau am 10pm heno. Fe gawn weld…

Heddiw mae un gweiniog yn Llywodreath San Steffan wedi cyhoeddi na fydd hi’n cefnogi rhagor o ‘goodies’ i’r Alban.

Os yw’r bleidlais yn mynd yn ei erbyn, wrth gwrs, mae sibrydion y bydd ASau Ceidwadwol yn gorfodi i David Cameron ymddiswyddo. Felly mae’r Prif Weinidog mewn lle braidd yn anodd heddiw.

5.48pm: Mae Alex Salmond wedi pleidleisio ’na’. Wel, yn ôl y Daily Mash, beth bynnag.

5.47pm: Mae Blogmenai wedi cyhoeddi eu dadansoddiad nhwythau o bwy sy’n debygol o bleidleisio ’na’ heddiw.

5.37pm: Dyma ambell ddyfyniad o vox pop Iolo Cheung yn ardal Murrayfield. Mae hwn yn ardal sydd i fod yn pwyso’n gryf tuag at bleidlais ‘na’, felly roedd hi’n annisgwyl darganfod bod hanner yr rheini a holwyd ganddo yn bwriadu pleidleisio ‘ie’. Dyma ambell sylw:

“Dydw i ddim yn gallu goddef meddwl am adael y Deyrnas Unedig.”

“Rwy’n credu bod San Steffan wedi cael nifer o ryfeloedd anghyfreithlon, a polisiau adain chwith, ac rydw i eisiau troi cefn ar hynny.”

“Mae’r ymgyrch ‘ie’ wedi addo bob math o bethau i’r Alban, ond heb ddangos eu bod nhw’n mynd i allu talu amdanynt.”

“Ry’n ni wedi cael digon ohonyn nhw – fe fyddan ni’n well ar ein pennau ein hunain.”

Ar yr un trywydd, mae Graham Henry (y newyddiadurwr nid yr hyfforddwr rygbi) o’r Western Mail wedi bod yn holi Aelod Seneddol Llafur Llanelli, Nia Griffiths. Roedd pethau’n “hynod o dynn” yng Nghaeredin, meddai. Fe fyddai hynny’n hwb i’r ymgyrch ‘ie’ pe bai’n wir.

5.24pm: Rydym ni eisoes wedi clywed bod canlyniadau Eilean Siar yn debygol o fod yn hwyr, oherwydd niwl trwchus. Ond dyma’r amseroedd y mae’r cyfrion gwahanol i fod i gyhoeddi eu canlyniadau – ac hefyd, pa mor debygol y mae sylwebwyr yn credu ydynt o gefnogi ‘ie’.

Fe allai fod yn weddol amlwg ar ôl i’r blychau pleidleisio gau am 10pm pa ochr sydd fwyaf ffyddiog. Daw pob ymhoniad i ben ac fe all arweinwyr yr ymgyrchoedd siarad yn gwbl onest ynglyn a pha ochr y maen nhw’n disgwyl ei weld yn ennill.

Bydd seddi megis Clackmannanshire erbyn 2.30am a Dundee erbyn 3am yn rhoi syniad reit dda i ni o sut mae’r bleidlais yn mynd. Os nad ydyn nhw’n pleidleisio ‘ie’ a hynny’n reit gryf, fe fydd yn amen ar obeithion yr rheini sydd am i’r Alban fod yn annibynol ac fe geith pawb fynd i’w gwlau yn gynnar.

Os yw pethau’n dynn, fe fydd Stirling ac Aberdeenshire yn rhoi ryw syniad i ni pa ochr sydd ar y blaen am 3am. Erbyn i Glasgow ddatgan tua 5am fe fydd Salmond a Darling wedi dewis araith.

Gan fod disgwyl i gymaint bleidleisio fe allai’r cyfri fod yn hwyrach. Ond bydd y ffaith mai dau ddewis yn unig sydd ar gael, hefyd yn golygu y bydd yn haws didoli’r pleidleisiau na mewn etholiad cyffredinol.

Does dim bwriad ail-gyfrif, felly bydd y pwyslais ar gywirdeb yn hytrach na chyflymder, meddai’r trefnwyr.

2am

North Lanarkshire – 6.3% o’r bleidlais – 6/10

Perth and Kinross – 2.8% – 8/10

East Lothian – 1.9% – 4/10

Moray – 1.8% – 8/10

Inverclyde – 1.4% – 2/10

Eilean Siar – 0.5% – 2/10 (hwyr – 7am?)

Orkney – 0.4% – 0/10

2.30am

Clackmannanshire 0.9% – 10/10 ‘ie’

3am

South Lanarkshire – 6.1% – 7/10

Aberdeenshire – 4.9% – 7/10

Renfrewshire – 3.1% – 5/10

Falkirk – 2.9% – 8/10

Dumfries and Galloway – 2.8% – 0/10

Dundee – 2.7% – 9/10

East Ayrshire – 2.3% – 8/10

Angus – 2.2% – 9/10

East Renfrewshire – 1.7% – 0/10

Stirling 1.7% – 7/10

West Dunbartonshire – 0.9% – 4/10

3.30am

West Lothian – 3.2% – 8/10

South Aryshire – 2.2% – 4/10

East Dunbartonshire – 2.0% – 2/10

Argyll and Bute – 1.7% – 4/10

Midlothian – 1.6% – 8/10

Shetland – 0.4% – 0/10

4am

Fife – 7.1% – 4/10

Highland – 4.4% – 2/10

4.30am

North Ayrshire 2.7% – 6/10

5am

Glasgow – 11.5% – 5/10

Edinburgh – 8.7% – 3/10

Scottish Borders – 2.2% – 0/10

6am

Aberdeen – 4.2% – 4/10

5.11pm: Mae ein gohebydd yng Nghaeredin, Iolo Cheung, wedi cynnal vox pop cyflym yn ardal Murrayfield. Roedd naw yn ‘ie’, naw yn ‘na’ – ac un dal heb benderfynu, ar y ffordd i’r blwch pleidleisio!

5.03pm: Wel wir, munudau wedi’r cofnod diweddaraf yna yn rhybuddio y gallai cludo pleidleisiau o ynysoedd pellenig achosi problemau, daw i’r amlwg bod niwl trwchus yn Eilean Sar yn golygu bod amheuon a fydd modd cludo’r blychau pleidleisio oddi yno ar awyren.

Efallai y bydd angen defnyddio cwch, gan oedi’r canlyniad terfynol nes tua 7am bore yfory. Dim ond 0.5% o’r bleidlais sydd ar Eilean Sar felly mae’n anhebygol o effeithio’r canlyniad… os nad yw’n rhyfeddol o dynn!

5pm: Fe agorodd y polau piniwn am 7am ac fe fyddwn nhw’n cau am 10pm.

Mae 97% (4.2m) o’r boblogaeth wedi cofrestru i bleidleisio, ac mae disgwyl y bydd dros 75% yn gwneud hynny (yn llawer uwch na’r 35% a bleidleisiodd yn refferendwm Cymru yn 2011).

Fe fydd y pleidleiswyr yn cynnwys pobl ifanc 16-17 oed am y tro cyntaf erioed.

Mae yna 5,579 o orsafoedd pleidleisio ledled yr Alban, ond mae 789,024 wedi gwneud cais am bleidlais post. Roedd 80% o’r rheni eisoes wedi eu dychwelyd ddoe.

Bydd 16,186 o Gymry ymysg yr rheini geith gyfle i bleidleisio. Ond mae yna 23,095 o bobl a gafodd eu geni yn yr Alban sydd bellach yn byw yng Nghymru, na fydd yn cael y cyfle i wneud hynny.

Gall niferoedd uchel y pleidleiswyr, yn ogystal a’r tywydd, oedi’r cyfrif. Bydd rhaid trosglwyddo blychau pleidleisio i Lochgilphead yn Argyll o rai ynysoedd pellenig mewn hofrennydd a chwch. Nid yw’r ynysoedd rhain fel arfer yn cyfri dros nos oherwydd peryglon trosglwyddo pleidleisiau yn y tywyllwch.

Bydd y prif swyddog cyfri yn derbyn y ffigyrau o’r 32 canolfan cyfri yn ddigidol a dros y ffôn. Mae disgwyl y canlyniad rhwng 6am a 7.30am, ond efallai y daw ynghynt os oes un ochr ymhell ar y blaen.

4.56pm: Mae’r Liverpool Echo yn adrodd bod cyn-arweinydd Cyngor St Helens, Marie Rimmer, wedi ei harestio wrth ymgyrchu yn Glasgow. Mae rhagor o fanylion fan hyn.

4.52pm: Mae’r polau piniwn diweddaraf yn awgrymu bod ‘Na’ ar y blaen o tua 2% yn unig, gan awgrymu mai pwy bynnag sydd fwyaf effeithiol wrth sicrhau bod eu cefnogwyr nhw yn gwneud y daith i’r blychau pleidleisio aiff â hi.

Mae’r ymgyrch ‘Better Together’ eisoes wedi dweud eu bod nhw’n weddol ffyddiog o ennill, gan nodi bod y niferoedd sydd wedi pleidleisio yn yr ardaloedd ‘na’ wedi bod yn uchel.

Ond a yw’r arolygon rhain wedi methu a chasglu barn cannoedd o filoedd sydd wedi cofrestru i bleidleisio am y tro cyntaf, fel y mae’r ymgyrch ‘ie’ yn ei honni?

Does neb wedi profi’r fath ddigwyddiad gwleidyddol o’r blaen yn hanes y Deyrnas Unedig, ac felly does neb yn gwybod i sicrwydd beth fydd yn digwydd.

Yn anffodus ni fydd yna arolygywr yn holi’r rheini a fydd yn gadael y blychau pleidleisio heno, fel sy’n arfaerol mewn etholiadau cyffredinol, felly ni fydd unrhyw awgrymu o sut mae’r wlad wedi penderfynu pleidleisio nes oriau mân y bore.

4.40pm: Croeso i Flog Byw Refferendwm Annibyniaeth yr Alban 2014.

Mae Iolo Cheung, gohebydd Golwg 360, i fyny yng Nghaeredin yn yr Alban yn casglu’r wybodaeth ddiweddaraf o’r cyfri’. Tra y bydd Ifan Morgan Jones, darlithydd newyddiaduraeth o Brifysgol Bangor, yn crynhoi’r wybodaeth ac ymateb y wasg a’r gwleidyddion – o Gymru, Lloegr, a’r Alban – wrth i’r noson fynd yn ei blaen.

Beth bynnag y canlyniad, mae’r ymgyrch wedi symbylu diddordeb newydd mewn gwleidyddiaeth yn yr Alban, a thu hwnt. Dyma ddechrau pennod newydd yn llyfrau hanes y Deyrnas Unedig, ac fe fydd sgil effeithiau’r bleidlais i’w teimlo yma yng Nghymru hefyd. A fydd yr Alban yn pleidleisio ‘na’, wedi ei dychryn gan addewidion am drychinebau economaidd, a’i hudo gan addewidion am fwy o rymoedd datganoledig? Neu a fydd y wlad yn dewis sefyll ar ei thraed ei hun, gan olygu y gallai fod yn gwbl annibynnol o fewn cwta dwy flynedd?