Mi fydd y targed ar gyfer codi tai yng Ngwynedd dros y 15 mlynedd nesaf yn gostwng 700 i 3,592, yn dilyn cwynion bod gor-ddatblygu yn y sir am gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg.
Mae Cyngor Gwynedd yn y broses o lunio Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) fydd yn amlinellu ym mha drefi a phentrefi yn y sir y bydd hi’n gymwys i godi tai.
Ac mae’r cynghorydd Sian Gwenllian wedi dweud yn Golwg yr wythnos yma bod y ffigwr sy’n cael ei gynnig ar gyfer Gwynedd “700 yn llai erbyn hyn.”
Cafodd y cyngor ei feirniadu am dderbyn opsiwn Llywodraeth Cymru i godi 4,292 o dai yng Ngwynedd, gyda gwrthwynebwyr yn rhagweld y byddai’n bwydo mewnlifiad pellach i gadarnle’r Gymraeg.
‘Cam pwysig’
Dywedodd Sian Gwenllian – sy’n ymgeisydd ar gyfer y Cynulliad yn Arfon ac wedi bod yn pwyso am newid i’r cynllun datblygu gydag ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionydd, Liz Savile Roberts – fod y gostyngiad yn nifer y tai yn “gam pwysig ymlaen”.
“Roedd y ddwy ohonon ni – ac eraill, wrth gwrs – yn poeni y gallai’r ffigwr oedd wedi ei osod ar ddechrau’r broses arwain at sefyllfa fyddai’n niweidio’r Gymraeg ac yn creu mwy o dai haf,” meddai.
“Rydan ni ar ddeall fod y ffigwr sy’n cael ei gynnig ar gyfer Gwynedd 700 yn llai erbyn hyn.
Tawelu dyfroedd?
Doedd Sian Gwenllian ddim yn gwadu bod pwysau ymgyrchwyr wedi cael effaith – fe fydd Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith yn cael ei chynnal ym Mhwllheli ymhen pythenfos, ar y testun ‘Na i or-ddatblygu Cymru!’.
“Mae pobol yn gwybod bod Liz a finnau yn wleidyddion, ac mae gwleidyddion yn meddwl yn wleidyddol,” meddai Sian Gwenllian.
“Ond mi’r ydan ni yn amlwg yn rhannu peth o’r pryder sydd wedi cael ei fynegi ac wedi bod yn gwrando ar hynny ac wedi trio mynegi hynny.
“A dw i’n credu bod y ffaith ein bod ni’n debygol o weld llai o dai rŵan yn y ffigwr terfynol yn dangos bod y Blaid yn medru cydweithio, er bod yna anghytuno, er mwyn cyrraedd at rywbeth sy’n fwy derbyniol.”
Ymateb y Gymdeithas
Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Ngwynedd a Môn:
“Mae’n eithaf clir i ni nad oes angen y miloedd o dai mae’r Cyngor dal i fwriadu eu codi.
“Mae’n rhyfedd bod y Cyngor wedi gwneud y cyhoeddiad hwn heb gynnal asesiad trylwyr o’r anghenion lleol am dai yn gyntaf.
“Mi fyddwn ni’n parhau i bwyso arnyn nhw i wneud hynny er mwyn sicrhau bod gyda ni gynllun sy’n gweithio er lles ein cymunedau a’n hiaith.
“Yn lle cynnal asesiad, mi ofynnodd y Cyngor i gynghorau cymuned wneud y gwaith eu hunain, heb gefnogaeth nag amser digonol i’w gyflawni.
“Mae ’na hefyd gwestiynau mawrion ynghylch lle maen nhw’n bwriadu adeiladu’r holl dai hyn.
“Ar lefel genedlaethol, mae gwir angen newid y gyfundrefn gynllunio fel nad oes modd adeiladu tai di-angen yn un man yng Nghymru.
“Bydd sicrhau newidiadau i Fil Cynllunio Llywodraeth Cymru er mwyn gosod anghenion lleol fel sail i’r system yn un o’n prif flaenoriaethau ymgyrchu’r Gymdeithas dros y misoedd nesaf.
Gobeithio bydd pawb yn uno tu ôl i’r ymgyrch yn ein Rali Flynyddol ym Mhwllheli mewn pythefnos.”