Adam Price - 'annibyniaeth yn anochel'
Mae angen i Gymru baratoi ar gyfer annibyniaeth, yn ôl un o ffigurau amlyca’ Plaid Cymru.

Fe fydd yr Alban yn sicr o gael annibyniaeth yn hwyr neu hwyrach, meddai’r dyn sy’n cael ei weld yn ddarpar arweinydd i’r blaid – ac mae’n dweud y gallai Gymru ddilyn.

Wrth ymgyrchu tros bleidlais Ie yn refferendwm annibyniaeth yr Alban, fe alwodd hefyd am drafodaeth rhwng y pleidiau ynglŷn â dyfodol Cymru.

‘Yn hwyr neu hwyrach’

“Mae’r Alban yn mynd i fod yn annibynnol,” meddai cyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru.

“P’un ai ydy hynny’n digwydd ar ôl dydd Gwener yma, neu a ydy e’n digwydd ymhen 10 nue 15 mlynedd, pan ddaw yna Refferendwm arall.

“Dyw’r genie sydd mas o’r botel ddim yn mynd nôl mewn. Mae yna genhedlaeth o bobol nawr [yn Yr Alban] sydd wedi ystyried bod annibyniaeth yn rhywbeth real – nid ffantasi, nid breuddwyd gwrach – ond opsiwn realistig.”

Refferendwm arall

“Os caiff y refferendwm yma ei golli, mi ddaw e’n ôl,” meddai Adam Price. “Wrth edrych ar y polau piniwn mae’n glir mai ymhlith yr henoed y mae’r bleidlais ‘Na’ gryfaf.

“Mewn 10 i 15 mlynedd wrth gwrs bydd y proffil demograffeg yn newid unwaith eto ac mae’n anochel yn y pen draw bod Yr Alban yn mynd i fod yn annibynnol.”

Galw am undod trawsbleidiol

Mae Adam Price yn galw am undod rhwng y pleidiau wrth drafod dyfodol Cymru.

“Ble bynnag mae pobol wedi sefyll ar y cwestiwn [annibyniaeth i Gymru] yn y gorffennol, allwn ni roi hynny o’r neilltu. Gadewch i ni ddod at ein gilydd ar draws y pleidiau – fel wnaethon ni yn ystod y streic [y glowyr 1984] i ryw raddau, a dweud: ‘Sut yden ni’n mynd i fynd o le’r ydym ni yn economaidd a gwleidyddol, i ble rydym ni am fod’.

“Dw i’n optimist. Dw i wedi bod yn dod i’r Alban am 25 mlynedd a dw i wedi gweld y newid sydd wedi bod fan hyn, y newid seicoleg.

“Fe ddigwyddodd rhywbeth yn Yr Alban, fe ddechreuon nhw gredu ynddyn nhw eu hunain a dw i’n meddwl bod hynny yn bosib yng Nghymru hefyd. Ond dyw e ddim yn mynd i ddigwydd dros nos.”

Y cyfweliad llawn a sylwadau Adam Price ar ei gyfres newydd am streic y glowyr yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.

Blog byw Golwg360, gyda Iolo Cheung o’r cyfri yn yr Alban – trwy’r nos heno.