Y stamp yn dangos pier Llandudno
Fe fydd stampiau gyda lluniau o ddau bier enwog yng ngogledd Cymru yn mynd ar werth am y tro cyntaf heddiw.
Mae’r stampiau’n dangos pier Llandudno a pier Bangor yn rhan o gasgliad sydd wedi ei lansio gan y Post Brenhinol i ddathlu pensaernïaeth glan môr yng ngwledydd Prydain.
Ymysg yr atyniadau eraill sydd i’w gweld ar y stampiau mae Goleudy Southwold yn Suffolk, traeth Blackpool a phier Dunoon.
‘Diddordeb’
Y diddordeb diweddar yng nglannau gwledydd Prydain sydd wedi sbarduno’r casgliad, yn ôl llefarydd ar ran y Post Brenhinol.
“Mae’r stampiau yn cyfleu’r profiad o fynd i lan y môr trwy ddangos yr adeiladau mwyaf arbennig sy’n unigryw i Brydain, a’r rhai sydd wedi cael eu hadeiladu ar gyfer twristiaid,” meddai.
Mae modd prynu casgliad o 10 stamp am £10.05 neu gasgliad o bedwar stamp am £3.80.