Ysbyty Pen-y-bont - un o'r ysbytai lle bu problemau
Dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi ymateb eto i alwad am ymchwiliad llawn i gyflwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae Cymdeithas y Meddygon, y BMA, yn rhybuddio bod y gwasanaethh yn wynebu chwalfa a fod y tair blynedd nesa’n allweddol i’w achub.

Mae angen “newid diwylliant” yn y gwasanaeth, meddai Cadeirydd y Gymdeithas, Dr Phil Banfield, gan wrando pan fydd staff rheng flaen yn tynnu sylw at broblemau.

Roedd methiant i wneud hynny yn y gorffennol wedi arwain at farwolaeth cleifion, meddai mewn cyfweliad gyda’r BBC.

‘Argyfwng recriwtio’

Roedd yn honni bod peryg wedyn na fyddai pobol yn dod i weithio i’r Gwasanaeth – mae’r BMA wedi rhybuddio bod “argyfwng” o ran recriwtio a chadw staff.

Mae llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar, wedi cefnogi galwad y meddygon, gan ddweud bod eisiau ymchwiliad tebyg i’r un a gynhaliodd Bruce Keogh i 14 o ymddiriedolaethau iechyd Lloegr.

Dyw’r Llywodraeth ddim wedi cael cyfle i ystyried galwad y BMA hyd yma.