Leanne Wood gyda Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon
Fe ddylai Cymru allu cymryd mantais o’r drafodaeth fawr sydd wedi bod am annibyniaeth yn yr Alban, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.

Yn ôl Leanne Wood, roedd y drafodaeth yn ymgyrch y refferendwm yn dangos y gallai trafodaeth debyg fod yng Nghymru ar y drefn lywodraeth.

“Mae’n amlwg nad yw’r setliad yng Nghymru yn addas at y pwrpas,” meddai mewn cyfweliad ar Radio Wales.

Fe ddywedodd y gallai Cymru gynnal trafodaeth debyg i’r un sydd wedi digwydd yn yr Alban.

‘Byd o les’

Beth bynnag am y canlyniad, y farn gyffredinol ymhlith sylwebyddion yw fod y drafodaeth ei hun wedi gwneud byd o les.

Mae cyfarfodydd a ralïau wedi bod yn cael eu cynnal yn gyson ledled yr Alban ers bron ddwy flynedd a’r disgwyl yw y bydd rhywbeth rhwng 80% a 90% o bobol yn pleidleisio ddydd Iau.