Mae ffigurau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan CAMRA yn dangos bod bragdai annibynnol yn dod yn fwy poblogaidd ymhlith cwsmeriaid yng ngwledydd Prydain.

Bu cynnydd o 10% yn nifer y bragdai newydd sydd wedi cael eu hagor yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae mwy o fragdai y pen yng ngwledydd Prydain nag yn unrhyw le arall yn y byd erbyn hyn.

Mae 170 o fragdai newydd wedi cael eu cynnwys eleni yn y ‘Good Beer Guide’ sy’n cael ei gyhoeddi’n flynyddol gan CAMRA.

Bellach, mae gan wledydd Prydain 1,285 o fragdai.

Dywed CAMRA mai’r bragdai annibynnol newydd sy’n bennaf gyfrifol am y cynnydd.

Mae tafarn y Pilot yn Y Mwmbwls yn Abertawe wedi ymddangos ar restr o’r tafarnau gorau yng ngwledydd Prydain fesul rhanbarth, ac mi fydd yn cystadlu yn erbyn 15 o dafarnau eraill yng nghystadleuaeth Tafarn y Flwyddyn eleni.

Mae gan y dafarn ei bragdy ei hun, ac mae’n cynhyrchu nifer o fathau gwahanol o gwrw o’r gasgen.

Cafodd ei hagor yn 1849 ac mae’n boblogaidd ymhlith cerddwyr, beicwyr a gwylwyr y glannau.

Y Pilot

Dywedodd landlord y Pilot, Richard Bennett wrth Golwg360: “Mae pobol yn gweld yr arwyddion am ein bragdy ni ac yn awyddus i ddod i mewn.

“Pilot Gold 4.4% yw ein gwerthwr gorau ni.

“Mae’r Gold yn gwerthu’n well na’r lager, hyd yn oed, am fod pobol yn hoff o gwrw o’r gasgen.

“Mae gyda ni nifer o fathau o gwrw ein hunain yn y dafarn, a dw i’n gyfrifol am redeg y bragdy.

“Mae nifer fawr o bobol yn dod i mewn ac yn gofyn pa un yw’r cwrw lleol. Mae hynny’n dweud y cyfan, mewn gwirionedd.”