Pate Pesto Coch cwmni Patchwork
Mae cwmni o Sir Ddinbych yn dathlu ar ôl ennill un o brif wobrau bwyd gwledydd Prydain.

Cafodd Gwobrau Great Taste, sy’n cael eu hystyried yn wobrau Oscar y byd bwyd, eu cynnal yn Llundain neithiwr ac enillodd Cwmni Bwyd Traddoddiadol Patchwork y wobr am y cynnyrch rhanbarthol gorau yng nghategori Cymru gyda’u Pate Pesto Coch.

Cafodd y pate hefyd ei enwi yn un o 50 cynnyrch gorau’r flwyddyn a’i ddewis allan o’r 10,000 o gynhyrchion a gyflwynwyd ar gyfer y gwobrau.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Patchwork, Rufus Carter: “Mae ein cwmni wedi tyfu cryn dipyn dros y blynyddoedd ond mae ein cynnyrch yn dal i gael ei wneud mewn sypynnau bychain er mwyn ceisio sicrhau ein bod yn cadw ansawdd y blas mae ein cwsmeriaid ffyddlon yn ei fwynhau.

“Mae’r gydnabyddiaeth hon yn wobr deilwng am holl waith caled ac ymroddiad ein staff dros y blynyddoedd.”

Cafodd 121 o gynhyrchion o 62 o fusnesau o Gymru eleni eu gwobrwyo hefo un, dwy neu dair seren.