Leanne Wood
Mae Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, heddiw wedi croesawu aelod newydd – Amy Kitcher, cyn-aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig fu’n sefyll dros ardal Merthyr Tudful.

Dywedodd Amy Kitcher ei bod yn troi ei chefn ar y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ac yn ymuno a Phlaid Cymru am ei bod yn teimlo ei fod yn amser i Gymru “gamu allan o gysgod gweddill Prydain.”

Mewn datganiad, esboniodd: “Rwyf wedi bod eisiau cynrychioli pobol leol a chymunedau lleol ar hyd fy oes. Yn ddiweddar, fe ddaeth yn glir i mi mai dim ond un blaid wleidyddol sydd â’r ewyllys, uchelgais a’r gallu i wneud hynny – a Phlaid Cymru yw honno.

“Mae refferendwm yr Alban wedi bod yn agoriad llygad i mi hefyd. Wrth fod yn hyderus a rhoi pobol yr Alban yn gyntaf, mae’r ymgyrch ‘Ie’ wedi cyflawni gymaint. Maen nhw wedi gorfodi San Steffan i gymryd sylw o’r wlad.

“Mae wedi fy mherswadio mai’r unig ffordd y bydd Cymru’n cael ei chymryd o ddifrif yw wrth anelu at efelychu’r Alban ac ennill y pwerau yr ydym eu hangen i drawsnewid yr economi.”

Fe wnaeth Amy Kitcher hefyd gefnogi Jill Evans a Phlaid Cymru yn yr etholiadau Ewropeaidd diwethaf.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.